Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio'r Gorffennol: Beth yw Hanes

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Beth yw hanes?

Sut y cyflwynir hanes? Sut ydyn ni'n dysgu am hanes? Pam rydyn ni'n dadlau am yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol a'r ffordd y mae'n dylanwadu ar ein bywydau? Beth yw rôl yr hanesydd?

Ar y modiwl hwn archwilir y cwestiynau hyn, ac fe gyflwynir cysyniadau, themâu a dulliau allweddol o ymdrin â hanes, gan eich galluogi i ddatblygu sgiliau fydd yn eich helpu i astudio hanes mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Byddwn yn dechrau drwy archwilio sut mae hanes yn cael ei chyflwyno yn y byd o'n cwmpas, o adeiladau ac amgueddfeydd, i ysgrifennu hanesyddol poblogaidd a'r hanes yr ydym yn ei gwylio, ei darllen a'i chlywed ar y teledu, podlediadau ac ar-lein.

Yna, byddwn yn ystyried datblygiad hanes academaidd, gan gynnwys astudio gwleidyddiaeth, cenhedloedd ac ymerodraethau, ac astudio 'hanes oddi isod' a'i phobl, cymdeithas a diwylliannau.

Yn olaf, byddwn yn edrych ar sut rydyn ni’n ailfeddwl am hanes a’r datgelu o ran lleisiau coll a’r sawl na chawsant lais a’r ffyrdd mae hyn yn ehangu ein dealltwriaeth i gynnwys ymchwiliad byd-eang a mwy amrywiol, gan amlygu hanes emosiynau, rhywedd, rhywioldeb, anabledd, yr amgylchedd, a mwy.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno dros naw sesiwn ar-lein 2 awr o hyd.

Bydd y sesiynau'n gymysgedd o ddarlithoedd, adnoddau clyweledol, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr hefyd ddarllen deunydd perthnasol wedi’i argraffu a defnyddio hynny’n sail ar gyfer cyfrannu yn y dosbarth. Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod a’r darlithoedd eu hunain.

Maes Llafur:

Cyflwyniad

  • Archwilio ac astudio'r gorffennol hanesyddol

Cyflwyno Hanes

  • Hanes yn Gyhoeddus
  • Hanes o'n Cwmpas
  • Hanes Academaidd

Pobl Mewn Hanes

  • Gwleidyddiaeth a Gwledydd
  • Cymdeithas a Diwylliant

Ailfeddwl Hanes

  • Mynd yn Fyd-eang
  • Amrywiaethu Hanes

Casgliad

  • Chi: Yr Hanesydd

Gwaith cwrs ac asesu

Mae i’r cwrs hwn ddwy set o waith wedi'i asesu a ddylai gyda'i gilydd fod yn tua 1500 gair o hyd. Mae'r darnau hyn o waith wedi cael eu cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau y mae arnoch eu hangen i astudio’r gorffennol yn llwyddiannus.

Bydd y cyntaf o'r rhain yn eich galluogi i ymarfer rhoi eich syniadau ar bapur, nodi deunydd darllen a pharatoi cynllun traethawd. Bydd yr ail yn rhoi cyfle i chi ysgrifennu traethawd byr.

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • John H. Arnold, Hanes: A Very Short Introduction (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000).
  • Helen Carr a Suzannah Lipscomb (goln),  What is History Now? How the Past and Present Speak to Each Other (Llundain: Weidenfeld a Nicolson, 2021).
  • Tracey Loughran (gol.), A Practical Guide to Studying History: Skills and Approaches (Llundain: Bloomsbury, 2017)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.