Ewch i’r prif gynnwys

Trin a Thrafod Plentyndod

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Briony Goffin
Côd y cwrs CRW24A5584A
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr
Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Briony Goffin
Côd y cwrs CRW24A5584B
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddefnyddio pwnc plentyndod a glaslencyndod i ysbrydoli eich straeon, boed yn ffuglen neu’n hunangofiant, gan gynnwys y profiad o fod yn blentyn, tyfu i fyny, a chyrraedd cerrig milltir.

Byddwch chi’n cael y cyfle i drin a thrafod persbectif a llais, yn ogystal â sut i bortreadu byd y plentyn mewn ffordd sy'n fywiog a pherthnasol, mewn ffordd sy’n bersonol i chi ac yn gyffredinol.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio ein cwrs Ysgrifennu i Blant yn y dyfodol, ond yn dymuno magu hyder yn gyntaf, mae hwn yn lle gwych i ddechrau ysgrifennu.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp bach.

Gall pynciau a themâu gynnwys:

  • Defnyddio pwnc plentyndod ar gyfer creadigrwydd
  • Rôl hunangofiant
  • Defnyddio pwnc plentyndod i ysgrifennu ffuglen
  • Ysgrifennu o safbwynt plentyn
  • Deall lleisiau gwahanol yn ystod plentyndod
  • Cyffredinolrwydd plentyndod

Sylwch fod y cwrs hwn defnyddio elfennau o blentyndod i annog creadigrwydd. Fodd bynnag, nid yw’n gwrs sy’n seiliedig ar dechnegau cwnsela neu les. Bydd angen i fyfyrwyr ystyried yn ofalus yr hyn y maen nhw am eu rhannu â’r grŵp, yn enwedig os yw profiadau’n ymwneud â thrawma yn ystod plentyndod.

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella i ddyfarnu credydau. Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gwella eich dysgu. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, ac rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion prysur.

Byddwch chi’n cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eich proses eich hun. Bydd y portffolio yn cynnwys tua 1500 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch chi’n cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen unrhyw beth ymlaen llaw.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.