Ewch i’r prif gynnwys

Cyfraith Ewrop

Hyd Nos Fercher rhwng 19:00 a 21:00
Tiwtor Mark Gorman
Côd y cwrs LAW24A1101A
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Os oes gennych ddiddordeb yng Nghyfraith Ewrop, neu fod angen gwybod ei hegwyddorion sylfaenol arnoch, dyma'r modiwl i chi.

Byddwch yn archwilio cyfarwyddebau, rheoliadau a chyfraith achos perthnasol o Lys Cyfiawnder Dynol Ewrop i gyflawni asesiad gwybodus a beirniadol o’r modd y mae Cyfraith Ewrop yn gweithio yn ymarferol.

Mae’r cwrs hwn yn addas i bobl sydd am ddeall gweithrediant ac effaith Cyfraith Ewrop ar gyfraith Cymru a Lloegr.

Dyma fodiwl 10 credyd ar y Llwybr at radd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Dysgu ac addysgu

Bydd darlithoedd, dadleuon yn yr ystafell ddosbarth a gweithdai grŵp. Yn ychwanegol at hyn, gall y tiwtor awgrymu eich bod yn darllen papurau newydd ac erthyglau cyfnodolion penodol, a chyfeirio at wefannau arbennig.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae dulliau’r Ganolfan wedi eu cynllunio i gynyddu eich hyder. Gwnaed ymdrech fawr i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n bleserus ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Asesir y modiwl hwn drwy brawf dosbarth ac aseiniad ysgrifenedig.

Deunydd darllen awgrymedig

Ar gyfer y cwrs hwn, argymhellir y llyfrau hyn:

  • T. Kennedy: Learning European Law: a primer and vade-mecum (Sweet & Maxwell, 1998)
  • P. S. R. F. Mathijsen: A Guide to European Law (Sweet &Maxwell, 1972; 7fed Argraffiad, 1999)
  • J. Hanlon: European Law (Sweet & Maxwell, 2il Argraffiad, 2000) Bydd tiwtor y cwrs yn cynnig teitlau, fel sy'n briodol.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.