Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth Orllewinol Hanfodol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Archwiliwch a dewch i ddeall y disgyblaethau craidd sy’n hanfodol i athroniaeth Orllewinol.

Y ffordd orau o ddeall y disgyblaethau craidd sy'n hanfodol i athroniaeth Orllewinol yw archwilio’r testunau athronyddol arloesol - gan gynnwys gwaith gan Plato, Kant, Locke, Descartes a Rousseau - sy’n llywio ein dealltwriaeth a’n dull o astudio’r meysydd ymchwilio sydd bellach yn rhai hirsefydledig. Drwy archwilio’r testunau hyn, rydym yn dysgu sut i athronyddu ein hunain ac i gael yr offer sydd eu hangen er mwyn cyfiawnhau ein atebion i’r problemau bythol sy’n parhau i fod yn bwysig.

Mae’r rhestr o destunau a phynciau i’w harchwilio dros y cwrs 10 sesiwn hwn ymhell o fod yn gynhwysfawr am draddodiad sy'n bodoli ers dwy fil a hanner o flynyddoedd, ond dylai'r rhai a gwmpesir eich ysbrydoli i ymchwilio ymhellach i bynciau sydd o ddiddordeb arbennig i chi.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y modiwl hwn dros 10 sesiwn dwy awr o hyd, wedi’u cyflwyno’n wythnosol.

  • Wythnos 1: Cyflwyniad - Cwmpas a dulliau ymholi athronyddol
  • Wythnos 2: Natur Realiti - 'Gweriniaeth' Plato
  • Wythnos 3: Natur Realiti - John Locke 'An Essay Concerning Human Understanding'
  • Wythnos 4: Moeseg - Immanuel Kant 'Groundwork of the Metaphysics of Morals'
  • Wythnos 5: Moeseg - John Stuart Mill 'Iwtilitariaeth'
  • Wythnos 6: Gwleidyddiaeth - Jean-Jacques Rousseau 'Y Contract Cymdeithasol'
  • Wythnos 7: Gwleidyddiaeth - John Rawls 'A Theory of Justice'
  • Wythnos 8: Crefydd - Thomas Aquinas 'Summa Theologica'
  • Wythnos 9: Y Meddwl - Rene Descartes 'Discourse on the Method'
  • Wythnos 10: Gwyddoniaeth - Thomas Kuhn 'The Structure of Scientific Revolutions'

Bydd cymysgedd o ddarlithoedd a seminarau, a bydd yr union gyfran yn cael ei phennu yn ôl anghenion y myfyrwyr sy’n cofrestru. Efallai y bydd yr elfen seminar yn cynnwys dadl, trafodaeth, gweithgareddau grŵp, cyflwyniadau a darlleniadau. Bydd deunydd darllen ychwanegol yn cael ei argymell a rhoddir rhestr ddarllen.

Rhoddir taflenni cwrs fel y bo'n briodol. Bydd y seminarau yn annog datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r syniadau a chysyniadau a drafodwyd yn ystod y cwrs. Byddwn ni’n ceisio helpu pawb i feithrin medrau deallusol trwy drafodaethau yn y dosbarth, darllen a gwaith cwrs.

Gwaith cwrs ac asesu

Traethodau neu orchwylion ysgrifenedig cyfatebol eraill hyd at 1500 o eiriau sy'n dangos eich bod yn deall elfennau craidd deunydd y cwrs.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu, sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Plato. Republic (Penguin Classics, 2003)
  • Locke, John. An Essay Concerning Human Understanding (Oxford University Press, 2008)
  • Kant, Immanuel. Groundwork of the Metaphysics of Morals (Cambridge University Press, 2012)
  • Mill, John Stuart. Utilitarianism (Oxford University Press, 1998)
  • Rousseau, Jean-Jacques. The social Contract (Penguin Classics, 2004)
  • Rawls, John. A Theory of Justice (Harvard University Press, 1999)
  • Kenny, Anthony. The Five Ways: St Thomas Aquinas’ Proofs of God’s Existence (Routledge, 2003)
  • Descartes, Rene. Discourse on the Method (Penguin Classics, 2005)
  • Kuhn, Thomas. The Structure of Scientific Revolutions, pedwerydd argraffiad (Chicago University Press, 2012)

Yn ogystal, i ddarparu trosolwg o hanes athroniaeth o'i dechreuadau yn yr Hen Roeg, rydym yn argymell y llyfrau canlynol:

  • Russell, Bertrand. A History of Western Philosophy, new edn (Routledge, 2004)
  • Honderich, Ted. The Oxford Companion to Philosophy (Oxford University Press, 2005)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.