Ewch i’r prif gynnwys

Sgiliau Arwain Hanfodol

Hyd 5 o gyfarfodydd bob pythefnos yn ogystal â 10 awr ar-lein
Tiwtor Jemma Cox
Côd y cwrs BAM24A5176A
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Mae’r cwrs hwn yn rhyngweithiol iawn, ac mae’n rhoi cwmpas rhagorol o sgiliau, technegau a gwybodaeth hanfodol sydd eu hangen ar gyfer llwyddo fel arweinydd mewn unrhyw faes.

Caiff y cwrs hwn ei addysgu drwy gymysgedd o ddysgu ar-lein a dysgu yn y dosbarth, a gellir ei astudio yr un pryd â'r cwrs Sgiliau Rheoli Hanfodol. Mae'r cwrs yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol a chysyniadau ar arddulliau arwain gyda sgiliau arwain ymarferol.

Mae’r cwrs hwn yn agored i bawb, ac mae’n tybio nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs hwn wedi'i addysgu drwy gymysgedd o ddysgu ar-lein a dysgu yn yr ystafell ddosbarth, a gellir ei astudio ar y cyd â'r cwrs Sgiliau Rheoli Hanfodol.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yw:

  • portffolio datblygu personol
  • cyflwyniad

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir gan y tiwtor yn Amgylchedd Dysgu Rhithwir y brifysgol.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.