Ewch i’r prif gynnwys

España: Arte y Música

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

El objetivo de este curso de español avanzado es mejorar la competencia del idioma al mismo tiempo que los alumnos obtienen nuevos conocimientos sobre literatura.

En este curso estudiaremos varios temas de la historia del arte (pintores, escultores, arquitectos, el arte en la actualidad, etc.), y la música  española tanto clásica como moderna.

Relacionaremos estos temas con el contexto histórico que los envuelve. Utilizaremos variedad de recursos tales como textos escritos, presentaciones, artículos y recortes de prensa.

También utilizaremos materiales audiovisuales como documentales, películas de cine basadas en obras literarias y  obras teatrales.

Los estudiantes tendrán la oportunidad de practicar y mejorar sus conceptos gramaticales, vocabulario y destrezas orales mediante actividades tanto orales como escritas presentadas en clase.

Se utilizará el laboratorio de idiomas regularmente para que el alumnado pueda trabajar cada cual a su ritmo y de forma autónoma.

Nod y cwrs Sbaeneg uwch hwn yw gwella gallu yn yr iaith yn ogystal â dysgu cysyniadau llenyddiaeth newydd.

Byddwn yn trin a thrafod amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â Chelf a Cherddoriaeth Sbaen a'r hanes cefndirol sy'n ymwneud â phob pwnc.

Bydd amrywiaeth o adnoddau yn cael eu defnyddio yn y dosbarth: testunau ysgrifenedig, cyflwyniadau ac erthyglau newyddion. Byddwn hefyd yn defnyddio adnoddau clyweledol megis rhaglenni dogfen, ffilmiau yn seiliedig ar lyfrau'r awdur a dramâu theatr.

Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymarfer a gwella eu geirfa, eu gramadeg a’u hiaith lafar drwy ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ysgrifenedig a llafar yn y dosbarth.

Bydd myfyrwyr yn defnyddio'r labordy iaith yn rheolaidd fel bod pob un ohonynt yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn ôl eu pwysau eu hunain.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr lefel uwch sy'n dymuno gwella eu sgiliau llafar a gwrando yn Sbaeneg. Addysgir y cwrs drwy gyfrwng y Sbaeneg.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Portffolio gwaith cwrs a chymryd rhan yn y dosbarth Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.