Athroniaeth Amgylcheddol
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Beth rydym yn ei olygu wrth sôn am y "byd naturiol"?
Sut gall athroniaeth ein helpu i feddwl am ein perthynas â'r amgylchedd? Sut allwn ni gyfiawnhau gweithredoedd o anufudd-dod sifil wrth amddiffyn yr amgylchedd?
A yw'n bosibl osgoi rhywogaethiaeth trwy roi buddiannau anifeiliaid ar sail gyfartal â diddordebau bodau dynol? Trwy archwilio materion yn ymwneud â'n dealltwriaeth o'r byd naturiol, byddwch yn cael cipolwg ar gwestiynau mwyaf dadleuol a dybryd ein hoes bresennol.
Mae'r cwrs hwn yn addas iawn ar gyfer rhaglen astudio ryngddisgyblaethol gan ei fod yn ymwneud ag ystod eang o bynciau ar draws y gwyddorau naturiol, y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.
Cynnwys y maes llafur
- Wythnos 1: Cyflwyniad - cysyniadau allweddol a throsolwg o'r cwrs.
- Wythnos 2: ‘Finding – and Failing to Find – Meaning in Nature’, Simon P. James.
- Wythnos 3: ‘Equality for Animals?’, Peter Singer.
- Wythnos 4: ‘Do We Consume Too Much?’, Mark Sagoff.
- Wythnos 5: ‘Economics and the Roots of Environmental Destruction’, Joseph Wayne Smith a Gary Sauer-Thompson.
- Wythnos 6: ‘Climate’, Henry Shue.
- Wythnos 7: ‘Sustainability’, Alan Holland.
- Wythnos 8: ‘Future Generations’, Ernest Partridge.
- Wythnos 9: ‘Deep Ecology’, Freya Mathews.
- Wythnos 10: ‘Environmental Disobedience’, Ned Hettinger.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Ar gyfer asesu, byddwch yn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig (traethawd neu aseiniad cyfatebol) hyd at 1600 o eiriau.
Deunydd darllen awgrymedig
- Athroniaeth Amgylcheddol
- Jamieson, Dale (gol.). A Companion to Environmental Philosophy (Blackwell, 2001)
- Sagoff, Mark. The Economy of the Earth: Philosophy, Law, and the Environment, 2il argraffiad (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2008)
- Shue, Henry. Climate Justice: Vulnerability and Protection (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014).
- Singer, Peter. Practical Ethics, 2il argraffiad (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1993)
- Smith, Kimberly K. Exploring Environmental Ethics: An Introduction (Springer, 2018)
- General Philosophy
- Honderich, Ted (gol.). The Oxford Companion to Philosophy (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995)
- O’Hear, Anthony. What Philosophy Is: An Introduction to Contemporary Philosophy (Penguin Books, 1985)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.