Cyfraith a Pholisi Amgylcheddol
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Mark Gorman | |
Côd y cwrs | LAW24A5597A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i brif agweddau cyfraith a pholisi amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr.
Dysgu ac addysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:
- Disgrifio cefndir cyfraith amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr.
- Gwahaniaethu rhwng y gyfraith sifil a’r gyfraith droseddol.
- Esbonio system y llysoedd a ffynonellau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
- Disgrifio rôl Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru.
- Egluro ac asesu’r effaith y mae Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn ei chael.
- Cydnabod a gwerthuso pa mor effeithiol y mae deddfwriaeth berthnasol.
Gwaith cwrs ac asesu
Caiff y modiwl ei asesu drwy asesiad ysgrifenedig (50%) ac astudiaethau achos (50%).
Deunydd darllen awgrymedig
- Bell, S., McGillivray, D. et al, Environmental Law (2024), Gwasg Prifysgol Rhydychen
- Fisher, E., Lange, B., Environmental Law, Cases and Materials (2019), Gwasg Prifysgol Rhydychen
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.