System Gyfreithiol Lloegr
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae'r cwrs hwn yn eich cyflwyno i elfennau pwysig o system gyfreithiol Lloegr, gan gynnwys ei gwreiddiau, ei harferion a'i gweithdrefnau.
Byddwch yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o gynsail farnwrol, dehongliad statudol, y system reithgor, tribiwnlysoedd, canolfannau’r gyfraith a chymorth cyfreithiol.
Nid yw’r cwrs hwn yn cymryd yn ganiataol bod gennych unrhyw wybodaeth ymlaen llaw, ac mae’n cwmpasu agweddau ar system gyfreithiol Lloegr.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cyfrannu at y llwybr at radd mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Dysgu ac addysgu
Darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o system gyfreithiol Lloegr, ei tharddiadau, ei hymarferion, gweithdrefnau, a phersonél.
Trafod effaith cyfraith Ewropeaidd a deddfwriaeth hawliau dynol ar system gyfreithiol Lloegr a chyfraith Lloegr. Ystyried a bod yn ymwybodol o ddiwygiadau arfaethedig i Gyfraith Lloegr a System Gyfreithiol Lloegr.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.
Darn i waith ysgrifenedig oddeutu 1500 gair a phrawf dosbarth byr. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Deunydd darllen awgrymedig
- English Law, K. Smith & D. Keenan (Longman Press)
- English Legal System, K. Malleson (Butterworth)
- Cases and Materials on the English Legal System, M. Zander (Butterworth)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.