Ewch i’r prif gynnwys

Doge, lolcats a smol floofs eraill: agweddau rhyngddisgyblaethol tuag at anifeiliaid mewn diwylliant poblogaidd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Beth mae'r llwynog yn ei ddweud? Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio byd rhyfedd a rhyfeddol anifeiliaid mewn diwylliant poblogaidd, o'r her flanced i bandas sbwriel, dyma'r cwrs i chi.

Byddwch yn dod ar draws cynrychioliadau poblogaidd o anifeiliaid mewn amrywiol gyfryngau megis memes ar y rhyngrwyd, caneuon, dywediadau poblogaidd, y newyddion, fideos feirol, a gwyddoniaeth boblogaidd, ymysg eraill.

Gan ddechrau o gynnwys anifeiliaid anffurfiol, bydd pob gwers yn archwilio dulliau posibl o athroniaeth, o lenyddiaeth, o gymdeithaseg, ac o seicoddadansoddiadau i fynd i'r afael ag ystyr anifeiliaid yn ein diwylliant a'n perthynas â nhw.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg gweithdy 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

Mae'r meysydd archwilio yn debygol o gynnwys:

  • Beth yw anifail? - dulliau biolegol a diwylliannol
  • Fe fi - y prawf drych, hunanymwybyddiaeth, adnabod, a hunaniaeth ddynol
  • Beth mae'r llwynog yn ei ddweud? Hefyd: doge - cyfieithu a chynrychiolaeth ieithyddol
  • Gwyn y gwêl y frân ei chyw - idiomau a phroffwydoliaethau anifeiliaid
  • A all anifeiliaid ddweud celwydd? - dadansoddiad seicolegol twyll anifeiliaid
  • Her y flanced! - sefydlogrwydd gwrthrych, pi-po, a gêm Fort/Da
  • Birbs - adar gwrthryfelgar y rhyngrwyd, niwroses, a daearyddiaeth anifeiliaid
  • Pandas sbwriel a chŵn bach awyr - enwau anifeiliaid poblogaidd, bwystoriau, a chosmoleg
  • Padiau pawen! Cyffwrdd â rhywun ar y trwyn! - neoteni a gwyddoniaeth ac athroniaeth ciwtrwydd
  • Adolygu

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Ar gyfer yr asesu, byddwch yn cynhyrchu portffolio o waith a allai gynnwys myfyrdodau byr, traethodau ac ymatebion perthnasol eraill. Bydd portffolios oddeutu 1,500 i 2,000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd tiwtor y cwrs yn darparu canllawiau llawn.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.