Clefydau yn y Byd Datblygol
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Bydd y cwrs hwn yn trafod y problemau a achosir gan glefydau sy'n benodol drofannol neu rai sy'n deillio o ddiffygion mewn cyflenwad dŵr a glanweithdra.
Mae'r dull a fabwysiedir yn un ecolegol ac mae'n rhoi sylw penodol i waith rheoli trwy addasu cynefinoedd a throsglwyddo technoleg.
Pynciau a drafodir:
- clefydau a drosglwyddir gan fosgitos
- clefydau a drosglwyddir gan drogod a gwiddon
- clefydau a drosglwyddir i bobl gan famaliaid eraill
- goblygiadau iechyd cyflenwadau dŵr diffygiol a glanweithdra gwael
- anhwylderau a gysylltir â diffyg maeth a chefndir amgylcheddol y problemau hyn
- hanes achosion rhanbarthol sy’n egluro rôl newidiadau i gynefinoedd, rhaglenni addysgol ac ymyraethau meddygol wrth reoli clefydau
Iechyd teithwyr; rheoleiddiadau a mecanweithiau ar gyfer lleihau risgiau iechyd i deithwyr yng ngwledydd yn y Byd sy’n Datblygu - problemau iechyd yn dilyn trychinebau naturiol
- rôl meddyginiaeth draddodiadol mewn gofal iechyd lleol.
Mae'r cwrs ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y problemau a achosir gan glefydau sy'n benodol drofannol neu rai sy'n deillio o ddiffygion mewn cyflenwad dŵr a glanweithdra.
Dysgu ac addysgu
Bydd darlithoedd, trafodaethau ac astudiaethau achos (20 awr). Defnyddir ystod lawn o gymhorthion gweledol a chewch adborth beirniadol ar eich adroddiadau ysgrifenedig.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Yn ystod y cwrs, efallai y gofynnir ichi wneud cyflwyniad neu gwblhau adroddiad, a bydd prawf dosbarth ar ddiwedd y cwrs.
Deunydd darllen awgrymedig
- Cyfnodolyn: - Social Science and Medicine Feachem, R.G., Bradley, D.J., Garelick, H. & Mara, D.D. (1983).
- Sanitation and Disease. Health Aspects of Excreta and Wastewater Management. John Wiley, Chichester. Werner, D.B. & Bower, B.L. (1982).
- Helping Health Workers Learn. The Hesperian Foundation, Palo Alto, California. Manson-Bahr, P.E.C. & Apted, F.I.C. (1982).
- Manson's Tropical Diseases. Balliere Tindall, Llundain.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.