Seicoleg Ddatblygiadol
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Rhiannon Maniatt | |
Côd y cwrs | PSY24A5266B | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Beth sy'n ein gwneud ni fel yr ydym? Mae babandod, glaslencyndod, bod yn oedolion a henaint oll yn cyflwyno gwahanol heriau.
Bydd cyfleoedd am drafodaethau, arsylwadau a datblygu a gwella eich sgiliau astudio. Mae'r cwrs hunangynhwysol hwn yn gyflwyniad delfrydol i'r maes pwnc.
Mae’r cwrs hwn yn agored i bawb, ac mae’n tybio nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol. Gellir dilyn y cwrs fel modiwl dewisol ar y llwybr at radd mewn gofal iechyd.
Dysgu ac addysgu
- Cyflwyniad i'r Cwrs – Beth yw seicoleg datblygu? / Canllaw Asesu
- Datblygiad Gwybyddol – Piaget / Datblygiad Moesol – Kohlberg
- Datblygiad Diwylliannol-gymdeithasol – Vygotsky
- Ymddygiadaeth – Watson a Skinner
- Theori Seicoddadansoddol – Freud / Dulliau Seicogymdeithasol
- Gweithdy aseiniadau / Cyfeirnodi Harvard
- Datblygu Iaith
- Gwerthuso Astudiaeth Ymchwil – cwestiynu dulliau ymchwil cymdeithasol
- Theori Cam Bywyd – Erikson / Theori Cwrs Bywyd
- Trosolwg o'r cwrs / Cyflwyno aseiniad
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.
Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yw: Cyfnodolyn a Thraethawd Myfyriol - Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu.
Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Deunydd darllen awgrymedig
- Gleason, J. B. (2005). (Ed.), The development of language (sixth edition). Boston: Pearson
- Harris, M. and Butterworth, G. (2002). Developmental psychology. A student's handbook. Hove: Psychology Press.
- Kehily, M. J. (Ed). (2009). An introduction to childhood studies (second edition). Maidenhead: Open University Press
- Wood, C., Littleton, K. and Sheehy, K. (2006). Developmental Psychology in Action. Oxford: Blackwell
- Zeedyk, M. (2008). What's life in a baby buggy like?: The impact of buggy orientation on parent-infant interaction and infant stress
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.