Ewch i’r prif gynnwys

Debatiendo la actualidad del mundo hispano

Hyd 20 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Susanna Echaves
Côd y cwrs SPA24A5557A
Ffi £383
Ffi ratach £306 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Este curso está orientado para estudiantes de español de nivel avanzado que quieren seguir practicando sus destrezas auditivas y orales además de adquirir nuevos conocimientos históricos y culturales.

En este curso se verán temas de historia y cultura contemporánea de España y América Latina.

Estos temas incluyen cómo ha influenciado la historia en la situación actual, guerras y conflictos políticos a través del arte y el cine, y la influencia del español en el mundo.

Para cubrir estos temas sEste curso está orientado para estudiantes de Este curso está orientado para aquellos estudiantes de español de nivel avanzado (niveles B2, C1 y C2) que quieran seguir practicando sus destrezas orales y auditivas además de adquirir nuevos conocimientos de vocabulario, cultura y temas de actualidad del mundo hispano.

En este curso se verá variedad de temas de actualidad relacionados con la historia, sociedad, política, y cultura contemporánea de España y América Latina.

Para cubrir estos temas se utilizará una gran variedad de recursos tales como presentaciones, recortes de prensa, documentales, documentos de televisión y lecturas.

Los alumnos podrán analizar el contexto de cada tema y practicar su gramática y vocabulario mediante actividades orales y escritas sobre la película vista en claseLos estudiantes tendrán la oportunidad de practicar sus destrezas orales y escritas tanto de forma independiente como en grupo, mediante discusiones, debates y presentaciones cortas.

También podrán practicar y mejorar sus conocimientos léxicos y gramaticales a través de comentarios de texto, redacciones y actividades de gramática y vocabulario.

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr Sbaeneg Uwch (B2, C1 a C2) sydd am barhau i ymarfer eu sgiliau sgwrsio a gwrando, yn ogystal ag ennill gwybodaeth newydd o eirfa, diwylliant a’r materion cyfoes sydd ynghlwm wrth Wledydd Sbaeneg eu hiaith.

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â phynciau cyfredol sy'n gysylltiedig â hanes, cymdeithas, gwleidyddiaeth, a diwylliant cyfoes yn Sbaen ac America Ladin.

Caiff amrywiaeth o adnoddau eu defnyddio er mwyn ymdrin â pynciau hyn, gan gynnwys cyflwyniadau, erthyglau papur newydd, rhaglenni dogfen, rhaglenni dogfen teledu a deunydd darllen.

Bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi cyd-destun y pwnc ac ymarfer eu sgiliau gramadeg a'u geirfa drwy weithgareddau llafar ac ysgrifenedig ar sail ffilm a wylir yn y dosbarth.

I bwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr uwch sy'n dymuno datblygu eu sgiliau llafar a gwrando yn Sbaeneg.  Addysgir y cwrs drwy gyfrwng y Sbaeneg.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Portffolio gwaith cwrs a chymryd rhan yn y dosbarth. Mae ein hasesiadau’n hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg. Mae ein dulliau’n ceisio rhoi hyder i chi, ac rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn addas i oedolion prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.