Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Creadigol: Dechreuadau Beiddgar

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 10 o gyfarfodydd wythnosol
Tiwtor Sophie Squire
Côd y cwrs CRW24A5602A
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Mae Dechreuadau Beiddgar yn gwrs sy’n addas i unrhyw un – dim ots a ydych chi'n awdur hyderus neu'n hollol newydd i'r syniad.

Os ydych chi am gael mwy o amser i ysgrifennu neu eisiau gwybod sut i ddechrau arni’n hyderus (a bwrw iddi ar unwaith), dyma’r cyfle i chi.

Bydd y cwrs hwn yn gyflwyniad i’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer awdur creadigol: dychymyg, hyder a dyfalbarhad. Dros gyfnod o ddeg wythnos, byddwch chi’n cael yr amser a’r cyfle i ystyried genres newydd drwy ddarllen ac ysgrifennu.

Byddwch chi a’ch cyd-fyfyrwyr yn rhannu ac yn rhoi adborth ar eich gwaith yn ystod ein sesiynau wythnosol. Cyn pen diwedd y cwrs deg wythnos, bydd gennych chi bortffolio creadigol a sylwebaeth feirniadol i’w cyflwyno, sy’n dangos eich Dechreuad Beiddgar ym maes ysgrifennu creadigol!

Os oes gennych chi brosiect yr hoffech chi ei ystyried yn fwy manwl neu nofel, barddoniaeth neu stori fer, neu os ydych chi eisiau dechrau rhywbeth o’r newydd, mae’r modiwl hwn yn addas ichi.

Dysgu ac addysgu

Cynhelir cyfarfodydd dwy awr unwaith yr wythnos (20 awr o gyswllt i gyd) a fydd yn cynnwys trafodaethau, ymarferion, darlithoedd ynghylch crefft a gweithdai.

Bydd darpariaeth ar-lein ar gael drwy Dysgu Canolog gyda dolenni perthnasol i adnoddau, deunyddiau sy’n cael eu rhannu yn yr ystafell ddosbarth a chyflwyniadau PowerPoint.

Bydd cynnwys y maes llafur yn amrywio, gan ddibynnu ar arbenigedd y tiwtor ac i ryw raddau anghenion a diddordebau'r myfyrwyr yn y grŵp.

Fel arfer, bydd y maes llafur yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion, darllen testunau, trafodaethau dan arweiniad y tiwtor a rhannu gwaith myfyrwyr, a bydd yn ymdrin â ffurfiau megis micro-ffuglen, y stori fer, y nofel a barddoniaeth.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, mae’n rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.

Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ni ei dangos gerbron arholwyr allanol er mwyn inni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.

Y peth pwysicaf y dylai’r broses asesu ei wneud yw gwella eich dysgu.

Mae ein dulliau’n ceisio gwella eich hyder, ac rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.

Byddwch chi’n cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol (1,500 o eiriau) ac yn ysgrifennu sylwebaeth feirniadol (500 gair) ynglŷn â’ch proses eich hun, gan ystyried hyn mewn ffordd feirniadol/damcaniaethol.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch chi’n cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen unrhyw beth ymlaen llaw.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.