Cerddoriaeth Greadigol
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Yn y trydydd modiwl a’r modiwl olaf ar y Llwybr at Gerddoriaeth, byddwch yn arbenigo mewn maes o gerddoriaeth creadigol.
Byddwch chi’n cael y cyfle i wella ar sgiliau sydd eisoes gennych chi, ac i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth trwy gyfathrebu cerddoriaeth.
Yn ystod y digwyddiadau 'ysgol undydd', bydd gweithdai rhyngweithiol yn cynnwys trafodaeth ar faterion yn ymwneud â cherddoriaeth greadigol, sy'n cynnwys gweithgareddau perfformio a chyfansoddi fel ei gilydd.
Byddan nhw hefyd yn rhoi cipolwg i ddysgwyr ar y cysylltiadau rhwng y ddwy ffurf ar gelfyddyd ac ar y ffyrdd y gall cerddorion ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Bydd y gweithdai yn gyfle i chi arddangos gwaith sydd gennych chi ar y gweill (boed yn berfformiad neu’n gyfansoddiad) a bydd adborth yn cael ei gynnig gan arweinydd y cwrs a’ch cyfoedion.
Dysgu ac addysgu
Yn dibynnu ar eich arbenigedd, byddwch chi’n canolbwyntio ar un o'r meysydd canlynol:
- Perfformiad unigol;
- Perfformiad ensemble;
- Chwarae'n fyrfyfyr;
- Cyfansoddi (gan ddefnyddio nodiant);
- Cyfansoddi (gan ddefnyddio technoleg).
Erbyn diwedd y modiwl, byddwch yn gallu:
- Dangos ymwybyddiaeth o’r hyn y mae ‘cerddoriaeth greadigol’ yn ei olygu a sut y gellir cymhwyso hyn i weithgareddau cerddorol amrywiol, gan gynnwys perfformiadau unigol a grŵp, chwarae’n fyrfyfyr, a chyfansoddi;
- Cymhwyso'r ddealltwriaeth o gonfensiynau, traddodiadau a thechnegau yn eich cyfansoddiadau eich hun [llwybr cyfansoddi];
- Deall a dehongli nodiant cerddorol yn hyderus i gynorthwyo cyflwyniad perfformiad unigol/grŵp sy'n ymwybodol o arddull [llwybr perfformio unawd/ensemble gan ddefnyddio sgôr nodiannu];
- Dangos amrywiaeth o ran alaw, rhythm, harmoni, gwead a mynegiant i gynorthwyo cyflwyniad perfformiad byrfyfyr [llwybr byrfyfyr heb ddefnyddio sgôr nodiannu];
- Datblygu’r gallu i weithio’n annibynnol a chynllunio, gweithredu a gwerthuso eich ymarfer a'ch perfformiad eich hun, a/neu dechneg ac allbynnau cyfansoddi.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd rhaid i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella. Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau’n ceisio rhoi hyder i chi, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion prysur.
Ar gyfer y cwrs hwn, byddwch chi’n cyflwyno recordiad o'ch dewis faes o gerddoriaeth greadigol. Byddwch chi’n cytuno ar eich dewis gyda thiwtor y cwrs ar ddechrau'r modiwl. Bydd manylion llawn yr asesiad ar gael ar ôl cofrestru.
Deunydd darllen awgrymedig
Byddwch chi’n cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr cyn i'r cwrs ddechrau.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.