Cyfraith Contractau
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Hyd | 10 o gyfarfodydd wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Jemma Cox | |
Côd y cwrs | LAW24A4509A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae'r cwrs hwn yn edrych ar greu contractau sy'n gyfreithiol rwymol a sut mae contract yn gweithio'n ymarferol.
Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn archwilio'r elfennau sy'n ffurfio contract sy'n ddilys yn gyfreithiol; rhwymedigaethau sydd ar gael pan fydd rhwymedigaeth gytundebol yn cael ei dorri, gwahanol fathau o gamliwio a thelerau contract annheg.
Bydd myfyrwyr yn myfyrio ar sut mae'r materion hyn yn effeithio ar y partïon i'r contract.
Bydd y cwrs hwn o ddiddordeb i unrhyw un sydd eisiau gwella eu dealltwriaeth am y contractau y maent yn ymuno â nhw, boed hynny yn eu bywyd personol neu mewn cyd-destun gwaith.
Dysgu ac addysgu
Addysgir y cwrs hwn trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau mewn grwpiau bach.
Gwaith cwrs ac asesu
Addysgir y cwrs hwn trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau mewn grwpiau bach.
Ar ôl llwyddo yn y modiwl, dylai myfyriwr allu:
Gwybod a Deall:
- Rhoi trosolwg i fyfyrwyr o'r gwahanol ddamcaniaethau sy'n sail i Gyfraith Contract fodern.
- Rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r hyn sy'n ofynnol i wneud contract cyfreithiol dilys a pha sefyllfaoedd fydd yn fforddio hawl i ddeiliad y contract ddiddymu'r contract.
- Trafod rhwymedigaethau cytundebol.
Ystyried telerau contract annheg a'u heffaith ar y rheini sy’n rhan o'r contract.
Deunydd darllen awgrymedig
- O’Sullivan. J, Contract Law (OUP) 10th Edition, 2022
- J. C. Smith and J.A.C. Thomas, Casebook on Contract (Sweet and Maxwell)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.