Gweithdy Cyfansoddi Cerddoriaeth Ar-lei
Hyd | Online | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Gareth Churchill | |
Côd y cwrs | MPR24A4549B | |
Ffi | £442 | |
Ffi ratach | £398 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Mae’r cwrs hwn yn cynnig cymorth personol o bell gan diwtoriaid (trwy e-bost fel arfer) i gyfansoddwyr newydd a phrofiadol sydd am ymgymryd â’u prosiectau eu hunain.
Bydd natur yr astudiaeth wedi'i theilwra i anghenion unigol y myfyrwyr. Mae’r cwrs yn bennaf ar gyfer myfyrwyr sy’n cyfansoddi cerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan arddull glasurol celfyddyd Orllewinol, mewn cyfansoddiadau offerynnol a/neu leisiol.
Mae cofrestru ymlaen llaw, ynghyd â datganiad o’ch diddordebau, yn hanfodol.
Bydd cynnwys y maes llafur yn benodol ar gyfer pob myfyriwr unigol, ac wedi'i deilwra i ddiwallu ei anghenion penodol. Bydd pwyslais ar ehangu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y myfyrwyr o arferion cyfansoddiadol cyfoes, a hynny er mwyn meithrin eu galluoedd cyfansoddiadol eu hunain. Darperir arweiniad a chyfarwyddyd gan gyfansoddwr profiadol. Bydd y myfyrwyr yn cael cyngor ar sut i gynhyrchu sgôr a deunyddiau perfformio gorffenedig i safon broffesiynol.
Nid yw'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n ysgrifennu mewn arddull jazz neu roc a phop.
Dysgu ac addysgu
Bydd yr addysgu a’r dysgu yn digwydd trwy gyfrwng deunyddiau addysgu a ddarperir ar y We – trwy feddalwedd Blackboard y Brifysgol a thrwy e-bost – gan gyflwyno gwybodaeth sylfaenol am y pwnc. Defnyddir y dull hwn ochr yn ochr â chymorth tiwtorialau o bell ac asesiadau. Mae cymorth o'r fath wedi'i deilwra i anghenion penodol y myfyrwyr, sy’n berthnasol i’r ddisgyblaeth.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Ni fyddwch yn sefyll arholiad ffurfiol. Asesir y cwrs hwn trwy adborth ffurfiannol ar eich prosiect a hefyd trwy asesiad cyfunol, a allai fod yn un darn o waith mawr neu’n bortffolio o weithiau. Trafodir natur y gwaith â thiwtor y cwrs.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
Deunydd darllen awgrymedig
Bydd y tiwtor yn argymell deunydd darllen, sgorau cerddorol a recordiadau, fel y bo'n briodol i'r myfyrwyr unigol.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.