Comedi, Trasiedi a Chelfyddyd Byw: Athroniaeth a Llenyddiaeth Hynafol
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Nid oes neb wedi rhagori ar gyflawniadau diwylliannol y Groegwyr a’r Rhufeiniaid hynafol, nac efallai wedi creu unrhyw beth tebyg hyd yn oed, yn y milenia yn dilyn eu cwymp.
Ar y modiwl hwn, byddwn yn archwilio ychydig o’r athroniaeth, barddoniaeth a rhethreg orau a gynhyrchwyd gan wareiddiad gorllewinol. Mae arwr crwydrol yn lladd cawr unllygeidiog mawr; mae athronydd yn profi twpdra ei gymheiriaid ac yn cael ei ladd fel modd o ddiolch; mae Brenin Thebes yn dod o hyd i lofrudd ei ragflaenydd ac yn gwneud ffafr enfawr i Sigmund Freud wrth wneud hynny; mae menywod Athens yn mynd ar streic rhyw yn erbyn y rhyfel (ac mae’n gweithio); ac mae Ofydd yn rhannu ei argymhellion ar gyfer dêts.
Ehangwch eich gorwelion a chanfyddwch beth wnaeth pobl y cynfyd ar ein cyfer. Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth neu athroniaeth a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Naratifau Mewnol, a bydd yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i chi a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.
Dysgu ac addysgu
Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd. Bydd cyfle hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan Amgylchedd Dysgu Rhithwir y brifysgol, Dysgu Canolog.
Gwaith cwrs ac asesu
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith asesedig: dadansoddiad agos 500 o eiriau a thraethawd 1,000 o eiriau. Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
- Aristophanes, Lysistrata and other Plays, cyfieithiad. Alan H. Sommerstein (London and New York: Penguin Classics)
- Aristotle, Nicomachean Ethics (Nifer o fersiynau ar gael)
- Homer, The Odyssey (Nifer o fersiynau a chyfieithiadau ar gael)
- Ovid, Metamorphoses (Nifer o fersiynau ar gael)
- Plato, Symposium (Nifer o fersiynau ar gael)
- Seneca, Moral and Political Essays (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1995)
- Sophocles, The Three Theban Plays: Antigone, Oedipus the King, Oedipus at Colonus, cyfieithiad. gan Robert Fagles (London and New York: Penguin classics)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.