Comando Actualidad
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Susanna Echaves | |
Côd y cwrs | SPA24A5528A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
El objetivo de este curso de español avanzado es mejorar la competencia del idioma al mismo tiempo que los alumnos obtienen nuevos sobre la actualidad de España y Latinoamérica a través de la prensa, noticias en televisión y documentales.
Trataremos temas variados de política, cultura, música y arte, cine, literatura, etc. Y los relacionaremos con el contexto histórico político que los envuelve.
Los temas se presentarán en clase y los estudiantes tendrán la posibilidad de practicar sus destrezas orales y ampliar su vocabulario a través de debates y ejercicios de conversación. Además, los estudiantes tendrán la oportunidad de practicar y mejorar sus conceptos gramaticales, vocabulario y destrezas orales mediante actividades tanto orales como escritas presentadas en clase.
Nod y cwrs Sbaeneg uwch hwn yw gwella sgiliau iaith a rhuglder wrth gael mewnwelediad newydd i faterion cyfoes Sbaeneg ac America Ladin trwy erthyglau yn y wasg, newyddion teledu a rhaglenni dogfen.
Byddwn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau megis gwleidyddiaeth, diwylliant, cerddoriaeth a chelf, sinema, llenyddiaeth, a llawer o rai eraill, gan eu cysylltu â’r cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol o’u cwmpas.
Bydd y pynciau yn cael eu trafod yn y dosbarth a bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ymarfer eu sgiliau iaith ac ehangu eu geirfa trwy ddadleuon ac ymarferion sgwrsio. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i wella eu cysyniadau gramadegol, eu geirfa a’u sgiliau llafar trwy weithgareddau llafar ac ysgrifenedig a gyflwynir yn y dosbarth.
I bwy mae’r cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr lefel uwch sy'n dymuno gwella eu sgiliau llafar a gwrando yn Sbaeneg. Addysgir y cwrs drwy gyfrwng y Sbaeneg.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Gwaith cwrs ac asesu
Portffolio gwaith cwrs a chymryd rhan yn y dosbarth. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Deunydd darllen awgrymedig
Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.