Sgiliau Hyfforddi a Mentora
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Josephine Smedley | |
Côd y cwrs | SOC24A5268A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Mae Mentora’n cael ei ddefnyddio’n fwyfwy ar gyfer cefnogi unigolion i gyrraedd eu nod mewn bywyd. Fel mentor, byddwch yn datblygu eich gallu i sefydlu perthynas, datblygu sgiliau gwrando a’r gallu i sylwi ar faterion a godir gan eich mentorai ac ymateb iddynt. Er ei fod yn hynod o ymarferol, mae'r cwrs yn cynnwys theori i gefnogi’r broses o fyfyrio a gwerthuso arfer mentora.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Mae'r cwrs yn agored i bawb.
Dysgu ac addysgu
Mae'r maes llafur yn cynnwys:
- beth yw hyfforddi a mentora
- deall cydrannau'r berthynas gyda chleientiaid
- sut caiff perthynas ei meithrin – sgiliau cyfathrebu / gwrando gweithredol
- delio gyda materion ynghylch amrywiaeth
- technegau cymorth – helpwr â sgiliau Egan
- strategaethau cymell – Gosod nodau
- ffiniau a chyfrinachedd
- myfyrio
- mecanweithiau monitro a gwerthuso ar gyfer cyflawniadau
- cyd-destunau ar gyfer hyfforddi – astudiaethau achos.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.
Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Bydd yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yn barhaus drwy gyfrwng ymarferion bach, ambell un yn ymarferol ac wedi'u cwblhau yn y dosbarth, eraill wedi'u gosod fel gwaith cartref. At hynny, bydd aseiniad ysgrifenedig, 1,000 o eiriau yn ofynnol, a gellir cyflwyno hwnnw i'r dosbarth. (Cytunir ar hyn gyda'r dosbarth yn yr ychydig wythnosau cyntaf)
Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.