Dinasoedd, Gwareiddiadau ac Ymerodraethau: Yr Hen Ddwyrain Agos
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae adroddiadau hanesyddol traddodiadol am yr hen fyd a ysgrifennwyd yn y Gorllewin wedi gosod datblygiad dinasoedd, ac felly gwareiddiad ei hun, yn yr Hen Ddwyrain Agos.
Mae datblygiad y dinasoedd a’r gwareiddiadau cynnar hyn wedi’i ddilyn gan stori rhai o ymerodraethau enwocaf yr hen fyd, sef yr ymerodraethau Babilonaidd, Asyriaidd a Phersiaidd, hyd nes iddynt gael eu bwrw i’r cysgod gan y Groegiaid ac yna’r Rhufeiniaid y tybiwyd eu bod yn rhagorach (ac yn fwy ‘Ewropeaidd’).
Bydd y cwrs hwn yn ceisio archwilio’r Hen Ddwyrain Agos ei hun, ac yn codi amheuon am dybiaethau ynghylch datblygiad y ddinas a syniad problemus ‘gwareiddiad’. Bydd hefyd yn archwilio'r cysyniad o 'ymerodraeth' ac yn amlygu cymhellion, dulliau a mecanweithiau rheoli ymerodraethau mwyaf pwerus y rhanbarth hyd at ac yn cynnwys eu goresgyniad gan Alexander Fawr. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i archwilio cyfres o astudiaethau achos, ymgysylltu ag amrywiaeth eang o dystiolaeth archaeolegol a llenyddol, a ffurfio dealltwriaeth feirniadol o'r cysyniadau allweddol sy'n hollbwysig i ddeall yr hen fyd a’n byd ni.
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Archwilio’r Gorffennol, a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys tair ysgol ar-lein diwrnod o hyd.
Bydd pob ysgol ddydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau a dadleuon dosbarth, gwaith pâr a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd.
Bydd cyfleoedd hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'u hwyluso gan Rith-Amgylchedd Dysgu’r brifysgol, sef Dysgu Canolog.
Cyn pob ysgol ddydd, bydd awr o astudio â chymorth, gan gynnwys recordiadau a thasgau byr ar-lein.
Gwaith cwrs ac asesu
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith asesedig:
- cyflwyniad byr
- traethawd 1000 o eiriau.
Byddwch yn cael cyngor a chefnogaeth ar gyfer y ddau aseiniad ac adborth manwl am gryfderau a meysydd i'w gwella ar y ddau ddarn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
- Leick, G, Mesopotamia: the invention of the city (Llundain : Allen Lane/Penguin Press 2001)
- Liverani, M, The Ancient Near East: History, Society and Economy (Llundain ac Efrog Newydd: Routledge, 2014)
- Mieroop, Marc Van De, A History of the Ancient Near East, ca. 3000-323 BC, 3ydd argraffiad (Chichester: Wiley, 2016)
- Morris, I. a Scheidel W., The Dynamics of Ancient Empires: State Power from Assyria to Byzantium (Rhydychen: OUP, 2009)
- line, E.H., a Graham, M.W., Ancient Empires: From Mesopotamia to the Rise of Islam (Caergrawnt: CUP, 2011)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.