Ewch i’r prif gynnwys

Siarad Tsieinëeg Ymarferol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r modiwl hwn yn addas i chi os ydych wedi dysgu ychydig o’r iaith Tsieinëeg yn y gorffennol, a hoffech wirio eich ynganu a dysgu ymadroddion ymarferol, neu os ydych yn bwriadu gweithio, astudio neu deithio yn Tsiena.

Dyma rai o'r pynciau fydd y cwrs yn eu cynnwys, ond nid yr unig rai:

  • cyfarchion
  • cyflwyno eich hunain
  • disgrifiad swydd
  • dweud yr amser a siopa.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn gallu sgwrsio ar lafar yn Tsieinëeg gan ynganu tonau’n naturiol a gydag ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Mae cyn-gofrestru yn hanfodol

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs

Gwaith cwrs ac asesu

I ni, y peth pwysicaf am asesu yw y dylai wella’r hyn rydych chi’n ei ddysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu sgiliau siarad a gwrando. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ogystal â’r sesiynau yn y dosbarth, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Zhao, Jinming. Chinese Conversation for Foreigners. Beijing: Beijing Languages and Culture University Press, 2007.

Liang, Xiangru, and Jun Gai. Short-term Listening and Speaking Chinese Course. Beijing: Peking University Press, 2006.

Kang, Yuhua, and Siping Lai. Conversational Chinese 301. Beijing: Beijing Languages and Culture University Press, 2009.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.