Ewch i’r prif gynnwys

Gwella eich Tsieinëeg

Hyd 24 o gyfarfodydd wythnosol
Tiwtor Yang Yang Cheng
Côd y cwrs CHI24A1002B
Ffi £445
Ffi ratach £356 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych chi wedi dysgu Mandarin Tsieinëeg yn rhan-amser am flwyddyn.

Cewch gyfle i atgyfnerthu eich gwybodaeth a datblygu eich sgiliau iaith ymhellach, ynghyd â'ch dealltwriaeth o'r diwylliant Tsieineaidd.

Mae'r testunau dan sylw yn cynnwys:

  • Dweud beth yw'r dyddiad
  • Gofyn am gyfarwyddiadau a rhoi cyfarwyddiadau
  • Gwneud ceisiadau ac ymateb iddynt
  • Disgrifio arferion bob dydd
  • Gofyn ac ateb cwestiynau am reolau a gwasanaeth
  • Archebu prydau
  • Gwneud galwad ffôn
  • Sôn am yr amgylchedd byw a llefydd
  • Disgrifio gwedd a phersonoliaethau pobl
  • Siarad am salwch

Mae'r gramadeg a drafodir yn cynnwys:

  • ffurfio brawddegau
  • berfau a strwythuro berfau
  • ymadroddion arddodiadol, adferfau
  • ansoddeiriau ac enwau
  • rhifolion, meintiolwyr a berfau
  • enwau ac ymadroddion enwau

Mae'r cwrs hwn ar gyfer y rheiny sydd â gwybodaeth sylfaenol iawn o Tsieinëeg ac y byddent yn hoffi teithio i Tsieina a byw yno.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Er mwyn asesu'r wybodaeth a'r sgiliau rydych wedi eu hennill neu well arnynt, a magu hyder, byddwn yn dylunio cyfuniad o waith cartref, profion dosbarth, profion llafar parhaus, a phrofion gwrando yn y dosbarth. Bydd gwaith cartref yn cynnwys darllen, gwrando ac ymarfer adeiladu cymeriad.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.