Tsieinëeg i Ddechreuwyr I (2024 Starts)
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae'r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr llwyr, a chaiff myfyrwyr eu cyflwyno i iaith Mandarin Tsieinëeg.
Bydd y pwyslais ar ddatblygu sgiliau gwrando a siarad yn ogystal ag ymgyfarwyddo â'r diwylliant Tsieineaidd.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch o Tsieinëeg er mwyn ymuno â’r cwrs hwn. Bydd croeso i unrhyw un ymrestru sydd am ddatblygu sgiliau cyfathrebu sylfaenol mewn Tsieinëeg, naill ai er mwyn datblygu gyrfa neu er bodlonrwydd personol.
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Ar wahân i sesiynau addysgu wyneb yn wyneb, bydd deunyddiau’r cwrs ar gael ar-lein i adolygu beth ydych wedi’i ddysgu.
Cewch eich annog i chwarae rhan lawn mewn sgyrsiau, trafodaethau grŵp ac ymarferion iaith rhyngweithiol eraill yn y dosbarth.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
I’r perwyl hwn, bydd prawf ysgrifenedig yn y dosbarth ar ddiwedd y cwrs i weld beth ydych wedi’i ddysgu, ond bydd canlyniad yr asesiad cyffredinol yn seiliedig ar eich perfformiad yn yr ystafell ddosbarth hefyd yn ystod y cwrs. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.
Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.