Ewch i’r prif gynnwys

Llythrennau Tsieinëeg

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r modiwl hwn ar gyfer y rhai a hoffai ddysgu mwy o nodau, ymarfer darllen ac ysgrifennu yn Tsieinëeg, a dysgu am strwythurau nodau.

Bydd myfyrwyr yn cael digon o gyfleoedd i nodi strwythurau nodau a defnyddio strociau neu radicalau i lunio nodau mewn ffordd hawdd.

Bydd y sgil a’r wybodaeth yma yn eich helpu i gofio nodau Tsieinëeg ac ehangu eich geirfa’n mwy effeithlon. Cewch gyfleoedd hefyd i ymarfer ysgrifennu nodau ag ysgrifbin neu frwsh Tsieineaidd.

Y nod yw sicrhau eich bod yn gwybod beth yw strwythurau sylfaenol y llythrennau, nodi a defnyddio technegau ysgrifennu’r llythrennau ac unedau neu radicalau, yn ogystal â dysgu rhai llythrennau Tsieinëeg sylfaenol.

Cewch brofiad o ysgrifennu llythrennau gydag ysgribin neu frwsh Tseineaidd a theipio llythrennau drwy pinyin, yn ogystal â chael tasgau ysgrifennu i’w cwblhau gartref.

Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:

  • gwybodaeth sylfaenol am lythrennau Tsieinëeg
  • technegau ysgrifennu Tsieinëeg
  • llythrennau unigol a radicalau
  • llythrennau gydag o leiaf ddwy uned
  • llythrennau mewn cyd-destunau.

Bydd y cwrs yn cysylltu’r rhain â’u goblygiadau neu eu hystyron diwylliannol i hwyluso ffyrdd o gofio a deall.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd heb unrhyw wybodaeth flaenorol o Tsieinëeg neu sydd wedi dysgu Tsieinëeg am un neu ddau semester, ond sy’n gallu adnabod ychydig o lythrennau Tsieinëeg yn unig.

Mae cyn-gofrestru yn hanfodol

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae cyn-gofrestru yn hanfodol i gael mynediad at ein platfform ar-lein

Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau a gynlluniwyd i ysgogi diddordeb a chynyddu hyder i ddysgu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i’ch ysgogi a’ch annog, ac mae ein dulliau asesu yn rhai i’w mwynhau ac yn addas i oedolion sydd â bywydau prysur.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae dwy ran i elfen asesu’r cwrs hwn er mwyn asesu darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ogystal â’r sesiynau yn y dosbarth, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn cofio ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

  • James W. Heisig, T. W. Richardson. Remembering Traditional Hanzi 1: How Not to Forget the Meaning and Writing of Chinese Characters. Honolulu: University of Hawaii Press, 2008.
  • Leyi Li. Tracing the Roots of Chinese Characters: 500 Cases. Beijing: Beijing Language and Culture University Press, 1993.
  • Pengpeng Zhang. The Most Common Chinese Radicals: New Approaches to Learn Chinese. Beijing: Sinolingua Press. 2001.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.