Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth Caerdydd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Dyfarnwyd statws dinas i Gaerdydd ym 1905 pan oedd ar ei hanterth fel canolbwynt ar gyfer allforion diwydiannol Cymru.

Mae canol dinas Caerdydd wedi gweld newid syfrdanol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda datblygiadau preswyl a masnachol newydd ym mhob man.

Beth mae'n ei olygu i fyw mewn dinas sydd wedi cael ei hailgynllunio’n ddiwylliannol, yn gymdeithasol, ac yn esthetaidd? A beth mae’r gwaith ailgynllunio hwnnw yn ei wneud i’r meddylfryd diwylliannol?

Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r ffordd y mae Caerdydd wedi cael ei dychmygu dros y ganrif ddiwethaf drwy destunau llenyddol, olrhain y newidiadau o ran adfywiad ac adferiad pensaernïol, yn ogystal â themâu o golled, dadfeddiannu a dadfeiliad sy’n codi dro ar ôl dro.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Ymhlith y topigau a drafodir y mae:

  • Caerdydd a Barddoniaeth: detholiad (darperir copïau)
  • Hunangofiant, Cof a Lleoliad: There was a Young Man from Cardiff
  • Y Sblot ar y Dirwedd: Yesterday in the Back Lane
  • Troseddu Marwol: Cardiff Dead
  • Mewnfudo ac Addysg: Gifted
  • Cerdded drwy’r Strydoedd: Cardiff Cut
  • Adfywio ac ailddychmygu’r ddinas: detholiad o straeon byrion (i’w ddarparu)

Gwaith cwrs ac asesu

Caiff y modiwl hwn ei asesu drwy ddau aseiniad byr a fydd yn cynnwys 1,500 o eiriau i gyd.

Deunydd darllen awgrymedig

Prif destunau

  • Abse, Dannie, There was a Young Man from Cardiff (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 1991)
  • Finch, Peter, and Grahame Davies, The Big Book of Cardiff (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 2005)
  • Nalwani, Nikita, Gifted (London: Viking, 2007)
  • Robson, Lloyd, Cardiff Cut (Aberteifi: Parthian, 2001)
  • Rubens, Bernice, Yesterday in the back lane (Llundain: Little, Brown and Company 1995)
  • Williams, John Cardiff Dead (London: Bloomsbury, 2000)

Darllen ychwanegol

  • Aaron, Jane a Chris Williams, golygyddion Postcolonial Wales. Gwasg Prifysgol Cymru, 2005
  • Anderson, Jon, ‘Towards an Assemblage Approach to Literary Geography’, Literary Geographies 1.2 (2016), 120-137.
  • Andrew, Lucy, a Catherine Phelps, golygyddion. Crime Fiction in the City: Capital Crimes. Gwasg Prifysgol Cymru, 2013.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.