Cyflwyniad i Drefnu a Rheoli Amser
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn dechrau arni drwy drin a thrafod y cysyniadau allweddol ynghylch cymell a threfnu cyflogeion yn y gweithle, cyn mynd yn eu blaen i ystyried pwysigrwydd yr amgylchedd busnes allanol.
Caiff effaith ffactorau mewnol ac allanol ar sefydliadau eu harchwilio o safbwyntiau ymarferol yn ogystal â damcaniaethol.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Gellir cymryd y cwrs fel modiwl wrth ei hun. Mae hwn yn fodiwl Llwybr ar gyfer y Llwybr at Gyfrifeg sy'n cynnwys 6 darlith 2.5 awr mewn hyd ac 1 ysgol dydd Sadwrn.
Dysgu ac addysgu
Caiff y cwrs ei addysgu drwy gymysgedd o ddarlithoedd, gwaith mewn grwpiau bach ac astudiaeth achos yn y dosbarth.
Rhaglen darlithoedd:
- Wythnos 1: Prif gysyniadau rheoli
- Wythnos 2: Cymhelliant yn y gweithle
- Wythnos 3: Cwmnïau hyblyg
- Wythnos 4: Dadansoddiad micro a macro
- Wythnos 5: Amgylcheddau Busnes (1)
- Wythnos 6: Amgylcheddau Busnes (2)
- Ysgol dydd Sadwrn: Gweithdy asesu a sgiliau astudio
Gwaith cwrs ac asesu
Mae'r asesiad ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys:
Cyflwyniad i Reoli a Sefydliad – Aseiniad Ysgrifenedig ar sail Senario Problem
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.
Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion yn y dosbarth.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs, neu lunio portffolio. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.
Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.
Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
Deunydd darllen awgrymedig
- Buchanan, D. a Huczynski, A. (2017) Organizational Behaviour Prentice Hall (Nawfed argraffiad).
- Mullins, L. (2016) Management and Organizational Behaviour Harlow: Prentice Hall (Unfed argraffiad ar ddeg).
- Wetherley, P. ac Otter, D. (2014) The business environment themes and issues in a globalizing world (Trydydd argraffiad).
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.