Ewch i’r prif gynnwys

Cyrff sy’n Syfrdanu a Chredoau Anhygoel, 1500-1700

Hyd 7 cyfarfod wythnosol ar-lein Yn ogystal â 4 awr anghydamserol ar-lein
Tiwtor Dr Rachel Bowen
Côd y cwrs HIS24A5489A
Ffi £264
Ffi ratach £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Heddiw, gall credoau cyfnodau cynharach ymddangos yn rhyfedd ac yn absẃrd; cynhyrchion 'anwybodaeth' neu 'ofergoeliaeth'.

Mae hyn yn sicr yn wir am y ddealltwriaeth fodern gynnar ynghylch y corff dynol. Mae’n bwysig cofio, fodd bynnag, bod y syniadau ymddangosiadol afresymol hyn yn aml yn seiliedig ar astudiaeth ofalus a systemau meddwl cymhleth.

Yn wir, gall y ffyrdd yr oedd pobl mewn oesoedd blaenorol yn meddwl am y corff a ffisioleg ddweud llawer wrthym am sut yr oeddent yn gweld y byd o'u cwmpas a'u lle eu hunain ynddo.

Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn archwilio ystod o’r credoau oedd yn bodoli ym Mhrydain ynghylch y corff rhwng 1500 a 1700.

Bydd hyn yn cynnwys agweddau at iachâd a meddygaeth, nefoedd, uffern a phurdan, angenfilod a’r hyn a elwid yr adeg honno yn ‘enedigaethau afluniaidd’, ysbrydion a gwrachod, a'r defnydd o broffwydoliaethau.

Gan ganolbwyntio'n bennaf ar Loegr, ond gan edrych ar gyd-destunau ehangach Prydain ac Ewrop lle bo hynny'n berthnasol, byddwn yn archwilio'r hyn y gall y ffigyrau hyn yn ei ddatgelu o ran sut mae syniadau ynghylch 'synnwyr cyffredin' a 'normalrwydd' wedi newid dros amser.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno ar ffurf saith darlith fer anghydamserol a saith seminar nos ar-lein.  Yn y seminarau ar-lein bydd trafodaeth ddosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn eich galluogi i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd disgwyl i chi hefyd ddarllen deunydd perthnasol wedi’i argraffu a defnyddio hynny’n sail ar gyfer cyfrannu yn y dosbarth.

Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  • Cyrff modern cynnar a'r anghyffredin
  • Darllen y corff a therfynau beth sy’n bosib
  • Angenfilod modern cynnar a chyrff afluniaidd
  • Crefydd, cred a hiraeth
  • Proffwydoliaethau modern cynnar – sut y’u defnyddiwyd, a sut fu iddynt gael eu cam-ddefnyddio
  • Ysbrydion, hud a dewiniaeth
  • Gwallgofrwydd a phrudd-der

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • dadansoddiad o ffynhonnell fer
  • blog 1000 gair

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn cael adborth manwl ynghylch y cryfderau a’r meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • David Cressy, Agnes Bowker’s Cat: Travesties and Transgressions in Tudor and Stuart England (Rhydychen, 2001).
  • Darren Oldridge, Strange Histories (Llundain, 2005).
  • Garthine Walker ac Angela McShane (goln.), The Extraordinary and the Everyday in Early Modern England: Essays in Celebration of the Work of Bernard Capp (Basingstoke, 2010).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.