Ewch i’r prif gynnwys

Ffantasi Archeolegol a Hanesyddol: Buddug i'r Bardd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 9 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Juliette Wood
Côd y cwrs ARC20A5400A
Ffi £225
Ffi ratach £180 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Cyflwyniad i'r berthynas rhwng hanes, archaeoleg a genres ysgrifennu ffantasi hanesyddol yw'r modiwl hwn.

Mae'r bydoedd ffantasi cyfoethog ac amrywiol a ddisgrifir mewn nofelau, gemau, ffilmiau a chyfresi teledu cyfoes yn plethu'r Llychlynwyr, y Celtiaid, y Saraseniaid a'r Samwrai gyda lleoliadau egsotig a themâu mytholegol aml-ddiwylliannol.

Er bod y bydoedd amgen manwl hyn wedi dod yn rhan o ddiwylliant poblogaidd, mae'r rhai a grëwyd gan awduron megis Tolkien a George R.R. Martin yn seiliedig ar farn am orffennol hanesyddol, ac mae disgyblaethau archaeoleg a hanes yr un mor bwysig o ran creu ffantasi â chythreuliaid a dreigiau.

Mae'r modiwl yn edrych ar y ffyrdd y mae bydoedd ffantastig yn troi ffynonellau hanesyddol ac ymchwil archeolegol yn ffantasi, a sut mae'r rhyngweithio hwn yn siapio ein hagweddau o ran beth sy'n real ac afreal. Bydd y cwrs hefyd yn archwilio rhai o ragflaenwyr ysgrifennu ffantasi modern. Er enghraifft, y ffordd gwnaeth ysgrifennu clasurol ac archaeoleg gyfoes droi Buddug yn ffigur anfarwol, ac effeithiau parhaus y ffordd y gwnaeth Shakespeare gyfleu Rhyfel y Rhosod a'i effeithiau ar fyd y Tuduriaid a thu hwnt.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes, archaeoleg a / neu ei gynrychiolaeth mewn llenyddiaeth, a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach.

Mae'n rhan o lwybrau Archwilio’r Gorffennol a Naratifau Mewnol, a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybrau hyn.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy naw sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Ymhlith y pynciau a drafodir y mae:

  • Defnyddio diwylliant 'Oesoedd Tywyll' Ewropeaidd o ran ysgrifennu ffantasi a hanesyddol
  • Gwneud Buddug yn arwres genedlaethol
  • Hanes Shakespeare a Rhyfel y Rhosod.
  • Archaeoleg fel ffynhonnell ar gyfer ysgrifennu creadigol
  • Y byd Celtaidd mewn ffantasi
  • Rhywedd mewn ysgrifennu ffantasi a nofelau hanesyddol.
  • Daearyddiaeth bydoedd ffantastig
  • Gemau, llyfrau a digwyddiadau cosplay - cynwyddoli (commodifying) bydoedd ffantasi
  • Bydd ymweld â Chasgliadau Arbennig ac Archifau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio deunyddiau sy'n berthnasol i’r cwrs hwn.

Gwaith cwrs ac asesu

Caiff y modiwl hwn ei asesu drwy ddau aseiniad byr a fydd yn cynnwys oddeutu 1,500 o eiriau i gyd.

Deunydd darllen awgrymedig

Essential Reading: Fantasy and Historical-Fantasy

Students can choose from a selection of recommended fantasy and historical-fantasy novels.

For example, Tolkien’s Lord of the Rings and George R.R. Martin’s Game of Thrones, Rosemary Sutcliff or Mary Stewart’s Arthurian novels and Andrej Sapkowski’s The Witcher series or Ursula le Guin’s  Earthsea Tetrology.

Recommended reading on archaeological and historical fantasy:

  • Jane Chance and Alfred K. Siewers (eds), Tolkien’s Modern Middle Ages (New York, 2009).
  • Robert Tittler and Norman Jones (eds.), A Companion to Tudor Britain (Oxford, 2004)
  • Micheal Alexander Medievalism: The Middle Ages in Modern England (New Haven, 2017)
  • Edward James and Farah Mendlesohn (eds), The Cambridge Companion to Fantasy Literature (Cambridge and New York, 2012).
  • Robert Eaglestone (ed.), Reading the Lord of the Rings: New Writings on Tolkien’s Classic (London and New York, 2005).
  • Jacqueline Furby and Claire Hines, Fantasy (London and New York, 2012)
  • Sarah L. Johnson, Historical Fiction: A guide to the genre (London, 2005).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.