Ewch i’r prif gynnwys

Arabeg ar Waith - Sgiliau Cyfathrebu

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i ehangu gwybodaeth a geirfa myfyrwyr ynghylch pob thema drwy gyfrwng trafodaethau, chwarae rôl, ymchwil a chyflwyniadau.

Wrth weithio’n annibynnol ac mewn grwpiau, byddwch yn cael eich gwahodd i ddefnyddio diddordebau personol a phrofiad i gefnogi eich cyfranogiad wrth archwilio’r agweddau ehangach ar y themâu canlynol:

Cyflwyno eich hun/manylion personol:

  • gofyn ac ateb cwestiynau ynghylch manylion personol
  • disgrifio eich tref neu bentref a rhestru tirnodau lleol ac unrhyw atyniadau i dwristiaid.

Gweithgareddau dyddiol:

  • siarad am weithgareddau bob dydd, megis gwaith, teithio, gwylio teledu, gwneud chwaraeon, mynd i’r sinema a theatrau, mynd i bartïon ac ati

Mewn maes awyr:

  • deall a dilyn y rheoliadau a chyfarwyddiadau y tu mewn i fynedfeydd a swyddfeydd maes awyr
  • cwrdd â Swyddogion Diogelwch a sut i ofyn am gymorth.

Gwyliau/saffari:

  • disgrifio a thrafod gwyliau’r presennol a’r gorffennol, treulio penwythnosau, lleoedd yr ymwelwyd â hwy a’r profiad yn ei gyfanrwydd
  • rhoi rhywfaint o ffeithiau am leoedd o ddiddordeb mewn dinasoedd/trefi, megis tirnodau hanesyddol a phensaernïol ac atyniadau i dwristiaid.

Mewn gwesty:

  • dewis gwesty, archebu ystafell ac archebu bwyd.

Mewn caffi:

  • gwahodd ffrind am de/coffi.

Mewn bwyty:

  • darllen a deall bwydlenni a sut i archebu pryd bwyd.

Materion yn ymwneud â’r gwaith:

  • CV
  • ysgrifennu hunangofiant cryno: man geni a magwraeth ac ati
  • gwneud cais am swydd, deall sgwrs ynglŷn â chyfweliad am swydd a chymryd rhan mewn chwarae rôl yn seiliedig ar y swydd.

Swyddi:

  • mathau o swyddi (dynion vs menywod)
  • profiad/straeon yn y gwaith
  • siarad am/hysbysebu prosiectau swyddi.

darperir deunyddiau’r cwrs yn y sesiwn gyntaf.

Defnydd helaeth o’n labordai iaith digidol.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd â gwybodaeth sylfaenol am yr iaith Arabeg a’i diwylliant.

Mae pwyslais y cwrs ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu myfyrwyr drwy sgyrsiau ar lafar. Felly, byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan weithredol mewn trafodaeth grŵp yn ogystal â thrafodaethau dosbarth.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Llyfr y cwrs: BBC Talk Arabic (i Ddechreuwyr, ail argraffiad, 2015).

Yn dibynnu ar eich lefel, efallai y byddwch eisiau ymweld â’n llyfrgell a chael cip ar y cyfnodolion rydym yn eu derbyn. Ffynhonnell dda arall o wybodaeth yw ein gwefan, ble rydym wedi rhestru gwefannau Arabeg y byddwch yn ymddiddori ynddynt, o bosibl.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.