Ewch i’r prif gynnwys

Arabic for Improvers II

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod i astudio Gwella eich Arabeg I, neu sy’n meddu ar rywfaint o wybodaeth am Arabeg.

Bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau iaith ymhellach.  Nid yw'n addas i ddechreuwyr llwyr yn yr iaith.

Bydd pynciau/gramadeg yn cynnwys:

  • y gwyddorau a'u gwahanol fathau wrth ysgrifennu, llafariaid hir a byr
  • dyblu, ychwanegu synau 'n' i ddiwedd geiriau, berfau yn eu ffurfiau gwahanol gydag amser a rhagenwau gwahanol
  • rheolau ysgrifennu (Hamza)
  • ansoddeiriau, rhagenwau, geiriau gofynnol, arddodiaid, geiriau meddiannol, ac arfer darllen ac ysgrifennu.

Ehangir ar yr holl bynciau blaenorol a byddant yn cynnwys amrywiadau ar gyfer cyfarchion, eich proffil personol, y goeden deuluol, rhifau, dyddiau'r wythnos, enwau'r misoedd, dweud yr amser, lliwiau, nodweddion trefi, cyfarwyddiadau'r ffordd fawr, gofyn am gyfarwyddiadau, rhannau'r corff, brethyn a gwisg, bwyd, ffrwythau a llysiau, diddordebau ac enwau gwrthrychau.

Mae rhai pynciau'n cael eu cwmpasu drwy weithdrefn o wrando e.e. yn y maes awyr, yn y gwesty, yn y bwyty, yn eich tŷ.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd ag ychydig ddealltwriaeth o Arabeg ac sydd am allu gwella eu sgiliau sgwrsio ac ysgrifennu sylfaenol.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc. Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr yn waith cartref.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.