Ewch i’r prif gynnwys

Sgiliau Cyfathrebu Arabeg II

Hyd 20 cyfarfod wythnoso
Tiwtor Amina Shabaan
Côd y cwrs ARA24A5562A
Ffi £383
Ffi ratach £306 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Grangetown Hub
Havelock Place
Caerdydd
CF11 6PA

Ymrestrwch nawr

Nod y modiwl hwn yw gwella sgiliau iaith lafar ac ysgrifenedig myfyrwyr ymhellach.

Bydd yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

  • Trafod plentyndod
  • Mynegi teimladau ac agweddau
  • Disgrifio eich cartref
  • Disgrifio pobl, lleoedd
  • Trafod amser hamdden a mynd allan
  • Trafod hobïau a diddordebau
  • Trafod gwaith
  • Mynegi hoff bethau a chas bethau
  • Rhifau
  • Archebu pryd o fwyd mewn bwyty

I bwy mae’r cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd â gwybodaeth sylfaenol o Arabeg.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Portffolio gwaith cwrs a chymryd rhan yn y dosbarth. Mae ein hasesiadau’n hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gwella eich dysgu. Diben ein dulliau yw ceisio cynyddu eich hyder, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch chi’n derbyn yr holl ddeunyddiau.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.