Ewch i’r prif gynnwys

Cymhwyso Damcaniaethau Troseddegol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

A allwn ni esbonio pam mae troseddau'n cael eu cyflawni? A ydy pobl yn cael eu geni'n droseddol?

A ydyn nhw'n dysgu ymddwyn mewn ffyrdd troseddol? A ydyn nhw'n dewis ymddwyn mewn ffyrdd troseddol? A yw rhai esboniadau o ymddygiad troseddol yn cyd-fynd â throseddau penodol?

Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o ddamcaniaethau troseddegol allweddol y gellir eu defnyddio i ddeall troseddau ac agweddau cadarnhaol a negyddol y rhain.

Yna bydd yn addysgu myfyrwyr am wahanol fathau o droseddau, a bydd myfyrwyr yn defnyddio astudiaethau achos bywyd go iawn i gymhwyso'r damcaniaethau hyn at droseddau.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y cwrs hwn trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau mewn grwpiau bach.

Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • Deall gwahanol ddamcaniaethau troseddegol sy'n ceisio esbonio trosedd
  • Gwerthuso gwahanol ddamcaniaethau troseddegol sy'n ceisio esbonio trosedd – yr hyn y gallant ei egluro a'r hyn y maent yn ei chael yn anodd ei egluro
  • Cymhwyso damcaniaethau troseddegol perthnasol i wahanol fathau o droseddau a throseddau mewn ymgais i'w hesbonio

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd asesiad y modiwl yn cynnwys traethawd.

Deunydd darllen awgrymedig

Core Text - Newburn, T 2017 Criminology London: Routledge

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.