Anifeiliaid, Moeseg a Chymdeithas
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae'r modiwl hwn yn archwilio a lleoli anifeiliaid nad ydynt yn fodau dynol, mewn cymdeithasau dynol.
Gan ddechrau gyda chyflwyniad cyffredinol i bwnc Anthrosŵoleg, neu astudiaethau anifeiliaid sy'n fodau dynol a'r rhai nad ydynt yn fodau dynol, bydd y cwrs yn archwilio'r modd y mae anifeiliaid yn cael eu cynrychioli yn y cyfryngau ac o fewn cymdeithas.
Byddwn yn archwilio ac yn edrych ar y modd y caiff anifeiliaid nad ydynt yn fodau dynol eu hystyried a'u saernïo gan fodau dynol, a goblygiadau hynny, gan gynnwys goblygiadau a materion moesegol.
Archwilio y syniad Cartesaidd o fodoli, nod y modiwl yw datgelu sut mae perthnasoedd rhwng bodau dynol ac anifeiliaid wedi diffinio bodau dynol, anifeiliaid a chymdeithasau nad ydynt yn ddynol, gan gynnwys perthnasoedd gyda moeseg, y cyfryngau, bwyd, dillad, bod yn berchen ar anifeiliaid anwes, economïau a’r amgylchedd.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y cwrs drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i chi drwy Dysgu Canolog.
Mae pynciau yn debygol o gynnwys:
- Cyflwyniad i’r cwrs ac i astudiaethau bodau dynol - anifeilliaid
- ‘Rwy’n meddwl, felly rwy’n bodoli’: Descartes, athroniaeth ac anifeiliaid
- Anifeiliaid fel anifeiliaid anwes a ffurfio hunaniaethau dynol
- ‘Gwnaeth y dingo yna fwyta fy mabi’: Anifeiliaid a’r cyfryngau, archwilio naratif cŵn peryglus
- Anifeiliaid fel bwyd/i’w defnyddio
- Anifeiliaid a dillad: y ddadl o blaid ac yn erbyn ffwr
- Anifeiliaid a chwaraeon: o Crufts i Cheltenham
- ‘Mae ef/hi yn gi gweithio’ - archwilio adeiladwaith anifeiliaid a gwaith
- ‘Anifeiliaid yn y byd gwyllt’: archwilio syniadau o wylltineb a beth yw ‘anifeiliaid gwyllt’
- Anifeiliaid a Mytholeg: O Ddynfeirch i Wolverine
- Lles Anifeiliaid
- Moeseg Anifeiliaid a Bodau Dynol
Gwaith cwrs ac asesu
I ganiatáu credydau, bydd angen tystiolaeth o’r wybodaeth a’r medrau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Bydd myfyrwyr yn cwblhau dau aseiniad: crynodeb darllen 500 o eiriau a thraethawd 1,300 i 1,500 o eiriau.
Deunydd darllen awgrymedig
- Almiron, N., Cole, M. a Freeman, C. (2015). Critical Animal and Media Studies. Argraffiad 1af Routledge.
- Bradshaw, J. (2017). Animals Among Us: The New Science of Anthrozoology. Llundain: Penguin Books Ltd.
- Descartes, R. and Moriarty, M. (2008). Meditations on First Philosophy. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen
- Hurn S (2012). Humans and Other Animals., Pluto Press (UK)
Hurn S (2011). Dressing down: Clothing animals, disguising animality. Civilisations, 2(59), 123-138.
DeMello (2012). Animals and Society: an introduction to human-animal studies. Efrog Newydd: Columbia University Press, 1995). - Waldau P (2013). Animal Studies: An Introduction. Gwasg Prifysgol Rhydychen, UDA
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.