Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Hanes Cymdeithasol Celf: 1700au-1830au

Tiwtor Dr Angela Morelli
Côd y cwrs AAA24A5578A
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Sut gallwn ni astudio celf er mwyn cael gwybod am fywydau pobl, llefydd a’r gymdeithas?

Cyflwyniad i Hanes Cymdeithasol Celf yw’r modiwl hwn, ac mae’n ymdrin â’r hyn y gallwn ni ei ddysgu am y gymdeithas a datblygiadau cymdeithasol drwy bortreadau a geir mewn gwaith celf.

Ein prif ffocws bydd ar ddatblygiadau yn niwylliant gweledol, a hynny gan drin a thrafod printiau, paentiadau, a cherfluniau o'r cyfnod rhwng y 1700au a’r 1830au. Cyfnod o newid mawr oedd hwn, ac a gwmpasodd Oes yr Ymoleuo, y Chwyldro Diwydiannol, y Chwyldro Ffrengig, ac ymdrechion i gyflawni’r nod o ddiwygio cymdeithasol.

Byddwn ni’n rhoi cychwyn ar ein hymchwiliadau drwy ymdrin â gwaith Hogarth a dychan gwleidyddol, cyn symud ymlaen i’r mudiad Rhamantiaeth a chyflwyniad i daith ymchwil Casper Lavater i fyd ffisiognomi. Caiff sylw ei roi hefyd i gynrychioliadau o’r arddull arswyd Gothig, ac i waith Jacques-Louis David a Goya yn benodol, gan dalu sylw arbennig i’r digwyddiadau gwleidyddol a wnaeth ddylanwadu ar eu gwaith.

Yn rhan o’r modiwl hwn byddwn ni’n ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, er mwyn dysgu mwy am y casgliad a lle mae’r gweithiau celf yn cyd-fynd â hanes celf.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach a sesiynau dadlau.

Bydd adnoddau sy’n ategu’r sesiynau dosbarth ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Maes Llafur:

  1. Trosolwg o’r Modiwl
  2. Hogarth a’r Dychanwyr
  3. Cwis, a Hogarth a’r Dychanwyr
  4. Rhamantiaeth – Ymweld â’r Amgueddfa
  5. Lavater a ffisiognomi
  6. Hunllefau Gothig
  7. Jacques-Louis David
  8. Goya
  9. Propaganda Gwleidyddol
  10. Atgrynhoi’r modiwl a pharatoi ar gyfer yr aseiniad.

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl ichi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • Traethawd 1500 gair.
  • NEU dri aseiniad gwerthuso critigol ar sail gweithiau celf (500 gair)

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • National Gallery. 2023. Artists A to Z. [online] http://www.nationalgallery.org.uk/artists/
  • Tate Britain. 2023. Art and Artists. [online] http://www.tate.org.uk/art
  • Anthony Janson and H.W. Janson, History of Art, 6th edition (London: Thames and Hudson, 2001)
  • Nadeije Laneyrie-Dagen, How to Read Paintings (London: Chambers, 2004)
  • Marcia Pointon, History of Art: A Student’s Handbook, 5th edition (London and New York: Routledge, 2014)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.