Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg Uwch - Cam F

Hyd 28 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Doris Wagner
Côd y cwrs GER24A2723A
Ffi £445
Ffi ratach £356 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich iaith lafar, glywedol ac ysgrifenedig ymhellach er mwyn i chi allu mynegi eich hun yn rhugl ac yn ddigymell.

Byddwch yn atgyfnerthu ac yn ehangu eich dealltwriaeth o strwythur Almaeneg ymhellach drwy ddadansoddi a thrafod materion diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol gwledydd lle siaredir Almaeneg.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar siarad, ac, yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i ymarfer eich sgiliau siarad trwy weithio mewn parau ac ymarferion grŵp; byddwch yn gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; byddwch yn darllen testunau papurau newydd; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg.

Bydd y cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau a fydd yn cael eu haddasu i gyd-fynd â diddordebau’r myfyrwyr.

Mae’r rhain yn cynnwys pynciau o ddiddordeb yn y gwledydd Almaeneg eu hiaith a gymerwyd o raglenni newyddion radio/teledu a rhaglenni dogfen yn ogystal ag erthyglau papur newydd/cylchgronau diweddar.

Byddwch hefyd yn adolygu pwyntiau gramadegol pwysig lle bo angen gwneud hynny.

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os oes gennych wybodaeth ddigonol dda iawn o’r Almaeneg ac eisiau cwrs ysgogol i gyfateb i’ch galluoedd a’u hymestyn (pum mlynedd o astudio rhan-amser a/neu Almaeneg Uwch Cam E).

Gall astudio’r cwrs hwn gyfrannu at y llwybr at radd mewn cyfieithu a’r llwybr at radd mewn ieithoedd modern.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.