Gweithdy Ysgrifennu Creadigol Uwch
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Rachel Smith | |
Côd y cwrs | CRW24A5567A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae straeon byrion, nofelau a hunangofiannau yn ddulliau grymus o adrodd straeon yn ein diwylliant modern.
Ond sut rydyn ni’n peri i'n gwaith ysgrifennu wneud argraff go iawn? Beth sydd ei angen mewn maes mor gystadleuol a phoblogaidd i bobl sylwi ar ein gwaith?
Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu ar lefel uwch. Gan ehangu ar yr hyn a ddysgoch chi mewn cyrsiau ysgrifennu creadigol blaenorol, byddwch chi’n ymwneud â sut i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu mewn ffordd sy'n gwella eich datblygiad proffesiynol yn ogystal â’r cyfleoedd i gyhoeddi eich gwaith.
Mae hyn yn cynnwys deall sut i fod yn 'barod am y gystadleuaeth', sut i fynd at asiant, sut i gysylltu â gwasg a sut i hunangyhoeddi'n llwyddiannus.
Sylwer bod gan y modiwl hwn ofynion dysgu blaenorol.
Dysgu ac addysgu
Cynhelir cyfarfod dwy awr unwaith yr wythnos (cyfanswm o 20 awr) a fydd yn cynnwys gweithdai, seminarau a darlithoedd.
Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i siarad am eu cynnydd, gofyn cwestiynau, trafod cysyniadau a drafodir mewn darlithoedd a thrafod eu straeon mewn grwpiau bach wedyn.
Bydd dysgwyr yn creu Portffolio Ysgrifennu Creadigol rhwng 2,500 a 3,000 o eiriau. Mae Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, yn ffynhonnell ddefnyddiol ar gyfer deunyddiau cwrs, sleidiau darlithoedd a darllen ychwanegol.
Dyma gwrs ysgrifennu creadigol uwch. Felly, mae’n rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau o leiaf dri modiwl ysgrifennu Lefel 4 o fewn Dysgu Gydol Oes yn llwyddiannus. Bydd dysgu blaenorol arall gan ddarparwyr eraill yn cael ei ystyried fesul achos. I gael rhagor o gyngor, cysylltwch â learn@caerdydd.ac.uk
Maes Llafur
Mae’r pynciau’n debygol o gynnwys:
- Dadansoddi ffuglen rhyddiaith a hunangofiannau a gyhoeddwyd
- Cymeriadu Uwch
- Deialog Uwch
- Strwythur a Phlotio Uwch
- Arddull a Thechneg Uwch
- Drafftio a Golygu Uwch
- Rhannu Gwaith/Darllen yn Uchel
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, mae’n rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella. Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ni ei dangos gerbron arholwyr allanol er mwyn inni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysgu. Diben ein dulliau yw ceisio cynyddu eich hyder, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion prysur.
Byddwch chi’n creu portffolio ysgrifennu creadigol cyflawn (2,500–3,000 o eiriau) a sylwebaeth feirniadol (tua 500 o eiriau) lle byddwch chi’n dadansoddi eich dealltwriaeth o ysgrifennu a'ch cynnydd o ran bod yn awdur. Yn wahanol i lawer o'n cyrsiau rhagarweiniol, mae'r cwrs hwn yn cael ei farcio ar sail canrannau.
Deunydd darllen awgrymedig
Darllen Hanfodol:
Anogir myfyrwyr i ddarllen a dadansoddi ystod eang o ffuglen fer, nofelau byr a hunangofiannau.
Deunydd Darllen Eilaidd a Ddewiswyd
- Writing Short Stories – A Routledge Writer's Guide (2il Argraffiad) gan Alisa Cox
- Save The Cat! Writes A Novel – The Last Book On Novel Writing You’ll Ever Need gan Jessica Brody
- Writing Memoir gan Judith Barrington
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.