Sgiliau Therapi Derbyn ac Ymrwymo
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Ingrid Wallace | |
Côd y cwrs | SOC24A5095A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Gan dybio bod gennych chi wybodaeth sylfaenol am ACT, bydd y cwrs hwn yn mabwysiadu dull ymarferol a byddwn ni’n dysgu sut i weithio gyda’r Model ACT Hexaflex ac y tu mewn iddo.
Gyda help senarios achos, hunanfyfyrio a gwaith grŵp bach byddwn ni’n archwilio sut i gymhwyso sgiliau craidd ACT a thrwy hynny, gynyddu ein dealltwriaeth o’r model a symud o un broses graidd i un arall, ar ôl datblygu gwell trosolwg ar gyd-ddibyniaeth prosesau craidd y model ACT.
Dysgu ac addysgu
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:
- datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth ac yn bennaf oll, y defnydd ymarferol o sgiliau Therapi Derbyn ac Ymrwymo I (neu unrhyw gwrs neu weithdy cyflwyniadol arall sydd wedi cyflwyno gwybodaeth sylfaenol am 6 proses graidd ThDY)
- dangos agwedd ystyriol a thosturiol tuag at eraill ac at eich hunain
- dangos egwyddorion ThDY trwy chwarae rôl
- Deall y broses gyfochrog (therapydd / cleient)
Gwaith cwrs ac asesu
Cyfnodolyn Dysgu (100%).
Deunydd darllen awgrymedig
Bennett, Richard, and Oliver, Joseph E., 2019. Acceptance and Commitment Therapy: 100 Key Points and Techniques *
Harris, Russ, 2009. ACT made simple, 2nd Edition 2019;
Harris, Russ, 2013. Getting Unstuck in ACT: A Clinician's Guide to Overcoming Common Obstacles in Acceptance and Commitment Therapy
Jason B. Luoma, Steven C. Hayes, Robyn Walser, 2007. Learning ACT.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.