Dysgwch iaith newydd dros yr haf

Dysgu Cymraeg Caerdydd sy’n cyflwyno ein dosbarthiadau Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yr haf hwn byddwn yn cynnal dosbarthiadau sgwrsio wyneb yn wyneb. Bydd y sesiynau byr ond dwys yn cael eu cynnal dros wythnos neu bythefnos ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf.
Byddant yn cael eu harwain gan diwtor arbenigol sy'n siaradwr brodorol mewn ystafell ddosbarth groesawgar a chalonogol.
I ddathlu, rydym yn lansio cystadleuaeth lle gallwch ennill cwrs yn rhad ac am ddim. I gystadlu mae angen i chi gwblhau arolwg byr iawn.
Bydd ystod o gyrsiau ar gael o ddechreuwyr llwyr i siaradwyr mwy profiadol mewn Ffrangeg, Eidaleg neu Sbaeneg. Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw diddordeb mewn iaith a'r brwdfrydedd i'w dysgu gydag eraill.
Cyrsiau sydd ar gael
Cyrsiau Cymraeg i oedolion
Rydym yn cynnig sesiynau rhagflas yn ogystal â chyrsiau i ddechreuwyr hyd at gyrsiau i siaradwyr Cymraeg rhugl a fyddai’n hoffi gwella eu Cymraeg.