Offer
Rydym yn gweithio ar y cyd i droi ein hymchwil yn offer ymarferol sy’n helpu busnesau i ddod yn fwy effeithlon.
Cael Gwared ar Stocrestrau yn ôl y Galw (D2ID)
Nid storio cynnyrch yw ffocws darparwyr logisteg heddiw. Yn hytrach, mae’n cyn lleied o stocrestr â phosibl ar gyfer ei chwsmeriaid, ac yn cydweithio â nhw er mwyn cynnal llif y cynnyrch. Mae logisteg yn ymwneud â llif cyson cynnyrch, ac mae cyflymdra asedau’n allweddol.
Y nod cyffredinol yw cael y stocrestr gywir yn y lle cywir ar yr amser cywir ac, yn bwysicaf oll, ar y lefelau cywir. Mae stocrestr sy’n rhy fawr yn ymglymu cyfalaf gweithio, gan gynyddu’r perygl o ddarfodedigrwydd, yn enwedig gyda chynhyrchion sy’n symud yn gyflym fel ffonau symudol, llechi neu eitemau ffasiwn. Bydd stocrestr sy’n rhy fach yn arwain at brinder stoc o eitemau, colli gwerthiannau a chwsmeriaid siomedig ar ddiwedd y broses.
Y fformiwla gudd
Ychydig flynyddoedd yn ôl, aethom ati i chwilio am ‘fformiwla gudd’ ar gyfer stocrestrau darbodus. Mae ein canolfan ymchwil wedi arwain at Gael Gwared ar Stocrestrau yn ôl y Galw (D2ID). Dyma raglen newydd a datblygedig o ragweld y galw am gynnyrch, a gwneud y mwyaf o stocrestrau.
Mae D2ID yn caniatáu i sefydliadau ddadansoddi data cadwyni cyflenwi er mwyn optimeiddio stocrestrau ar lefel SKU, rhyddhau arian parod a gwella lefelau gwasanaeth. Gan ddefnyddio’r dulliau ystadegol diweddaraf, mae’r nodwedd yn nodi ymddygiad cylch bywyd eich cynnyrch, ac mae’n gallu rhagweld y galw yn y dyfodol. Gall stocrestrau a gofynion lefel gwasanaeth yn y gadwyn gyflenwi wedyn gael eu cynllunio a'u hoptimeiddio unol â hynny.
Argraffu 3D
Mae Argraffu 3D (3DP) – a elwir hefyd yn weithgynhyrchu ychwanegion – yn un o’r tiroedd newydd mwyaf cyffrous ym maes trawsnewid digidol, a chadwyni cyflenwi sy’n esblygu. Gallai weddnewid y diwydiannau gweithgynhyrchu a logisteg traddodiadol, gan alluogi addasu a phersonoli cynnyrch wrth y cam hwyraf posibl yn y gadwyn gyflenwi.
Mae cyflwyno gwasanaethau gweithgynhyrchu ac argraffu 3D (3DP) yn gofyn am newid mawr ar gyfer unrhyw gwmni. Yn dilyn cydweithio llwyddiannus a Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu’r nodwedd newydd ar gyfer cael y mwyaf allan o stocrestrau, D2ID, defnyddiodd PARC raglen bartneriaeth ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth (KTP) i gyfuno ymchwil academaidd ym meysydd 3DP a dyluniad y gadwyn gyflenwi.
Yn rhan o'r bartneriaeth hon, datblygwyd ateb newydd sy'n asesu effaith posibl 3DP ar gadwyni cyflenwi, gan nodi eitemau allweddol allai elwa o newid i gynhyrchu ychwanegion ac ailstrwythuro’r gadwyn gyflenwi er mwyn gwella ei berfformiad.
Dadansoddiad o gadwyn gyflenwi
Mae'r broses hon yn gwerthuso'r holl gynhyrchion yn y gadwyn gyflenwi i ganfod y rhai mwyaf addas ar gyfer gweithgynhyrchu ychwanegion. I ddechrau, mae'r dadansoddiad yn eithrio cynhyrchion anaddas (e.e. rhannau sy’n symud yn gyflym ac o gyfaint uchel) ac yn cynnal efelychiad i gymharu dulliau gweithgynhyrchu presennol ag argraffu 3D. Felly, mae’n adnabod y rhannau mwyaf priodol ar gyfer y dechnoleg.
Dadansoddiad peirianyddol
Wrth y cam hwn, rydym yn creu dyluniad addas ar gyfer gweithgynhyrchu ychwanegion, a chanlyniad hynny yw ffeil ddigidol y gellir ei hargraffu mewn 3D. Gall y dadansoddiad gynnwys sganio cynhyrchion sy'n bodoli eisoes, addasu lluniadau gwreiddiol, neu ail-ddylunio'r cynnyrch o'r dechrau. Yn ogystal, mae’n cynnwys detholiad perthnasol o gronfa ddata o dros 30 o ddeunyddiau, cynhyrchu prototeip a rheoli ansawdd cychwynnol.
Mae'r rhannau y gellir eu hargraffu fel ffeiliau digidol wedyn yn cael eu cadw mewn warws digidol. Maent ar gael drwy gyfrwng llwyfan webshop neu e-fasnach. Mae hyn yn cynnwys system rheoli archebion soffistigedig, sy'n caniatáu i archebion cynhyrchu gael eu prosesu’n gyflym ac yn effeithlon yn unrhyw un o leoliadau argraffu 3D ein partneriaid ledled y byd.
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: