Dechrau Ailaddasu - Gweddnewid Cynnyrch a Chydweithio Cysylltiedig
Cefnogir y Prosiect Smart Expertise hwn gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
Mae'r prosiect yn edrych ar y gwerth yn sgîl ailaddasu cynnyrch a chydrannau mewn cymwysiadau eilaidd drwy gydweithio â busnesau, a chyfraniad hyn â’r economi gylchol.
Nod y prosiect yw lleihau olion traed deunydd a charbon tra'n creu ffrydiau gwerth newydd ar draws cadwyni cyflenwi.
Cefndir y prosiect
Yn lle’r ffordd o feddwl traddodiadol ac unffordd o ‘greu, defnyddio a chael gwared’ ar gynnyrch, mae’r model chwyldroadol a chylchol o ‘greu, defnyddio-ailddefnyddio’ yn dechrau dod i’r golwg. Nid yw deddfwriaeth newydd bellach yn ysgogi newidiadau araf ond yn gwthio cwmnïau i leihau eu hallyriadau carbon yn sylweddol (targedau sero-net).
Strategaeth economi gylchol yw ailaddasu sy'n addasu cynnyrch diwedd oes i'w defnyddio mewn cymwysiadau a marchnadoedd gwahanol. Ei nod yw cadw neu ychwanegu gwerth (uwchgylchu) yn hytrach nag ailgylchu ar lefel y deunydd (isgylchu) yn unig. Ymhlith rhai enghreifftiau mae troi dillad yn deils carped, seddi awyrennau yn fagiau a thyrbinau gwynt yn siediau beiciau!
Beth yw'r sefyllfa?
Mae cadwyni cyflenwi yn gweithio’n annibynnol heb unrhyw brofiad na’r gallu i gyrchu marchnadoedd posibl. Nid oes llawer o ganllawiau ar sut i gysylltu a rheoli cadwyni cyflenwi rhyng-ddibynnol.
Daw'r ateb drwy fod cadwyni cyflenwi’n cydweithio ac yn defnyddio mwy byth o’r wybodaeth ddigidol sydd ar gael.
Datrys pethau drwy bartneriaeth
O'n rhwydwaith diwydiannol, rydyn ni’n creu darlun o brosiectau ailaddasu cyfoes. Yn y rhain, yr astudiaethau achos yw’r partneriaid sy’n adnabod y cyfleoedd, y problemau a’r ffactorau sy’n hollbwysig er mwyn bod yn llwyddiannus.
Mae angen gwybodaeth, data a syniadau arnon ni i ddeall paramedrau strwythurol sy'n dylanwadu ar weithrediadau dyddiol a strategaethau yn y dyfodol.
Y Partneriaid Diwydiannol
DSV — Un o Bartneriaid Strategol Prifysgol Caerdydd ac un o ddarparwyr logisteg mwyaf y byd. Drwyddyn nhw, mae modd cael gafael ar wybodaeth ddigidol ar draws cadwyni cyflenwi ac maen nhw’n cysylltu gweithgareddau ailaddasu.
Interface — Arweinydd byd-eang ym maes datblygu a gweithgynhyrchu cynnyrch lloriau cynaliadwy (megis defnyddio plastigau wedi'u hailaddasu i greu teils carped). Maen nhw’n seilio eu strategaethau ar gynaliadwyedd.
Greenstream Flooring — Busnes adfer lloriau arbenigol o Gymru sy'n ymwneud â theils llawr wedi'u hailddefnyddio a'u hailaddasu.
3DGBire - Cwmni argraffu 3D sy'n defnyddio ffilament wedi'i ailaddasu yn eu cynnyrch argraffu 3D.
CREATE Education — Arbenigwyr addysg gwyddoniaeth sy'n canolbwyntio ar gyflwyno dylunio’r economi gylchol a thechnolegau gweithgynhyrchu i'r ystafell ddosbarth a'r gymuned.
Gwasanaethau Cynghori Rj-Alpha Ltd. - Cwmni ymgynghorol sy'n gweithio ym maes busnesau technoleg newydd a chwmnïau sydd wrthi’n tyfu. Mae ganddyn nhw rwydwaith sefydledig o gwmnïau sy'n ymwneud â thechnoleg ddwfn, diwydiant 4.0 a’r gadwyn gyflenwi gylchol.
Tîm y prosiect
Yr Athro Aris Syntetos, Dr Thanos Goltsos, Dr Daniel Eyers, a Dr Tim Ramjaun, rheolir y prosiect gan Dr Andy Treharne-Davies o Brifysgol Caerdydd, a’i gyd-arwain gan yr Athro Mike Wilson a Peter Tuthill o DSV.
Yr Athro Aris A. Syntetos
Distinguished Research Professor, DSV Chair
- syntetosa@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6572
Dr Thanos Goltsos
Research Associate (EPSRC, Innovate UK, QIOPTIQ Ltd.)
- goltsosa@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9325
Dr Daniel Eyers
Reader in Manufacturing Systems Management
- eyersdr@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4516
Dr Andrew Treharne-Davies
Research Centre Manager (CAMSAC, the PARC Institute and ASTUTE 2020), Entrepreneurship and Innovation Services Manager
- daviesat4@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9334
Yr Athro Mike Wilson
Executive Vice President Logistics Manufacturing Services, Executive Vice President Latin America DSV, Honorary Visiting Professor at Cardiff Business School
Ymunwch â ni
Os hoffech chi gymryd rhan neu drafod prosiectau economi gylchol eraill, cysylltwch â ni: