Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau ac offer

Man in white lab coat working with high tech machine

Mae gan y Ganolfan ystod eang o gyfleusterau, gan gynnwys labordy argraffu 3D o safon y diwydiant, gydag amrywiaeth eang o dechnolegau proses Gweithgynhyrchu Adiol uwch.

Mae gennym hefyd ofod delweddu, sy'n cynnwys clustffonau realiti rhithwir o'r radd flaenaf i gefnogi ein defnyddwyr wrth ddylunio ac atgyweirio gyda phrototeipio rhithwir.

Ategir y cyfleusterau uwch hyn gan ‘weithdy’ llawn stoc ac amrywiaeth o offer a chyfarpar traddodiadol, gan gynnwys gwaith coed, offer atgyweirio a phrofi trydanol a pheiriannau gwnïo diwydiannol a domestig.

Nid ydym yn canolbwyntio ar ymgymryd â thasgau sydd eisoes yn cael eu gwasanaethu gan sefydliadau masnachol. Yn hytrach, rydym yn arbenigo fel cyfleuster sy'n ymroddedig i hyfforddiant, addysg ac ymgysylltu, gydag amrywiaeth eang o dechnoleg argraffu 3D diwydiannol.

Workshop attendees soldering in the RemakerSpace

Cysylltu â ni

A oes gennych ddiddordeb yn ein galluoedd, gan gynnwys diddordeb mewn gweld sut y gallem helpu i integreiddio cysyniadau sy’n ymwneud â’r economi gylchol yn eich grwpiau cymunedol, eich ysgolion, eich prifysgolion a’ch busnesau?

Cysylltwch â RemakerSpace i gael rhagor o wybodaeth a dysgu sut y gallwn weithio gyda'n gilydd!

RemakerSpace