Digwyddiadau blaenorol 2018/19
Manylion digwyddiadau blaenorol 2018/19 ar gyfer Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Rhestr PARC.
Dyfodol Cludo Nwyddau
3 Hydref 2019 yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd, Caerdydd
Symudedd di-ffrithiant yw dyfodol cludiant, lle y bydd pob modd a cherbyd (lled-) awtonomaidd yn gwbl gysylltiedig yn un rhwydwaith. Mae’r gweithdy hwn yn dilyn prosiect a noddodd CILT i ystyried technoleg carfanau o lorïau yn y deyrnas hon. Bydd y gweithdy yn trafod canlyniadau’r ymchwil honno. At hynny, bydd y gweithdy’n trafod materion eraill sy’n dod i’r amlwg ym maes cludo nwyddau megis data crynswth, cerbydau heb yrrwr a llwybreiddio cerbydau yn y modd gorau.
39ain Symposiwm Rhyngwladol ar Ddarogan
16-19 Mehefin 2019, Palas Macedonia, Salonica, Gwlad Groeg
Yr Athro Aris Syntetos, Cadeirydd Canolfan Ymchwil Panalpina (PARC) lywiodd raglen y gynhadledd ryngwladol a ddenodd ymchwilwyr, ymarferwyr a myfyrwyr gorau’r byd gan gynnwys yr Athro Mike Wilson, Cyfarwyddwr Corfforaethol PARC, a siaradodd yno. Trwy gyfuniad o gyflwyniadau gan siaradwyr o fri, sesiynau academaidd, gweithdai a rhaglenni cymdeithasol, mae’r gynhadledd yn cynnig sawl cyfle ardderchog ar gyfer rhwydweithio a dysgu.
Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan swyddogol.
Cynhadledd Deinameg Sustemau yn Ysgol Busnes Caerdydd
22 Mawrth 2019 yn Ystafell Addysgu Gweithredwyr Ysgol Busnes Caerdydd
‘Rhwydwaith Ail-weithgynhyrchu gwydn: Darogan, Gwybodeg a Holonau’ (ReRuN) a Changen Prydain Cymdeithas Deinameg Sustemau sy’n cynnal cynhadledd o’r enw ‘Sbectrwm dulliau datrys problemau trwy sustemau: peirianneg sustemau, deinameg sustemau a syniadau sustemau’.
Poster am y gynhadledd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ruini Qu drwy ebostio qur4@caerdydd.ac.uk.
3ydd gweithdy iLEGO
15 Ionawr 2019 yn Ystafell Addysgu Gweithredwyr Ysgol Busnes Caerdydd
Gweithdai ar gylchedd diwydiannol lle y bydd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Accenture, Ocado, WRAP Cymru a’r Ministry of Furniture yn ogystal ag araith gan Sophie Howe, Comisiynydd Cymru dros Genedlaethau’r Dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth yn y darn hwn.
Diwrnod Ymarferwyr 21ain Cynhadledd QMOD
22ain Awst 2018 yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd
Diwrnod i ymarferwyr lle y bydd cyfle i drafod profiad gweithwyr rheoli ansawdd megis meithrin meddylfryd cynaladwy, y gwrthdaro rhwng rheoli ansawdd ac arloesi, rheoli ansawdd yn oes ansicrwydd, cyfundrefnau effeithlon, meddwl yn ôl systemau, gweithio hyblyg a digidol, cyfuno materion amgylcheddol ac effeithlonrwydd ac ati.
I gyflwyno ymholiadau, cysylltwch â Dr Maneesh Kumar drwy ebostio kumarm8@caerdydd.ac.uk, Cyd-Gadeirydd, 21ain Cynhadledd QMOD.
Symposiwm Rhyngwladol ar Ymchwil i Restrau Stoc (ISIR) 2018
20 Awst 2018 yn Danubius Health Spa Resort, Budapest
Mike Wilson roes brif araith y gynhadledd ar dynged cadwyni cyflenwi byd-eang yn 2018.
Mae rhagor o wybodaeth at wefan ISIR 2018.
Gweithdy 3DP
27 Mehefin 2018 yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd, Caerdydd
Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd (PARC) weithdy cydweithredol ar gyfer y byd diwydiannol a’r byd academaidd i drafod effaith gweithgynhyrchu ychwanegion (argraffu 3D) ar gadwyni cyflenwi.
Mae rhagor o wybodaeth yn y darn hwn.
Gweithdy Rheoli Gweithrediadau mewn Cyd-destunau Economaidd Cylchol
17 Ebrill 2018 yn IET Birmingham, Austin Court, 80 Cambridge Street, Birmingham
Cyfle gwych i academyddion ac ymarferwyr drafod a chyfnewid syniadau am faes rheoli gweithrediadau yn yr economi gylchol. Gallwch ddisgwyl trafodaethau adeiladol a llawn gwybodaeth yn ogystal â chyfle, gyda lwc, i greu partneriaethau a phrosiectau cydweithio newydd.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch y daflen neu ebostio Shixuan Wang: rerun@caerdydd.ac.uk
Ipsera 2018
25-28 Mawrth 2018 yng Neuadd Gynadledda Aegli, Athen, Gwlad Groeg
Mike Wilson roes brif araith cynhadledd Ipsera 2018 yn Athen ar dynged cadwyni cyflenwi byd-eang mewn oes sy’n llawn ansicrwydd a thuedd gynyddol i osgoi mewnforio.
I weld rhagor, darllenwch y crynodeb o’r brif araith a gwylio’r holl gyflwyniad.
Gweithdy argraffu 3D
15 Mawrth 2018 yng Nghanolfan Ymchwil Panalpina, Adeilad Aberconwy, Ysgol Busnes Caerdydd
Dod â’r byd academaidd a diwydiannol ynghyd i fynd i'r afael â materion hollbwysig yn y gadwyn gyflenwi a rhannu arbenigedd ein Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth dros ddwy flynedd.
Thema: Digideiddio’r Gadwyn Gyflenwi
Sut bydd argraffu 3D yn effeithio ar gadwyni cyflenwi byd-eang? Sut gall prifysgolion helpu sefydliadau i baratoi ar gyfer y newid?
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr agenda neu gysylltu â Katy Huckle: katy.huckle@panalpina.com.
BT: Digwyddiad Arwain Meddyliau
5 Mawrth 2018 yn Narlithfa Sir Alan Rudge, Parc Adastral, Ipswich
Bydd yr Athro Aris Syntetos yn cyflwyno trosolwg o’r heriau darogan a chadwyn gyflenwi sy’n gysylltiedig â’r economi gylchol, ac yn cyflwyno awgrymiadau ymarferol i helpu cwmnïau i integreiddio llifau deunyddiau yn ôl ac ymlaen a chyflwyno modelau busnes sy’n cyd-fynd â’r gofynion perthnasol.
Cynhadledd y Byd Cysylltiedig Bosch
21-22 Chwefror 2018 yn STATION-Berlin
Bydd Stefan Karlen yn cyflwyno dull Panalpina o drin rhyngrwyd y pethau a chadwyni cyflenwi byd cysylltiedig ym mhumed Gynhadledd flynyddol y Byd Cysylltiedig Bosch.