Digwyddiadau blaenorol 2015-17
Manylion digwyddiadau blaenorol 2015 /17 ar gyfer Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Rhestr PARC.
Cynhadledd Rhagwelediad Ymarferwyr 2017
15-16 Tachwedd 2017, Raleigh, North Carolina
Traddododd yr Athro Aris Syntetos brif araith yng Nghynhadledd Rhagwelediad Ymarferwyr 2017, Athrofa Prifysgol Talaith North Carolina ar gyfer Dadansoddeg Uwch. Canolbwyntiodd y gynhadledd eleni ar Ailgysylltu Rhagweld â Rheoli Eiddo a Chynllunio Cyflenwi.
Dadansoddeg Darogan Busnes yn Panalpina: Gweithdy a hyfforddiant
12-14 Mehefin 2017 yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd, Caerdydd
Cynhaliodd Canolfan Ymchwil Panalpina y gweithdy a’r hyfforddiant yma i nodi ble y gall dadansoddeg helpu busnes Panalpina i hyfforddi pobl ynghylch dulliau darogan, defnyddio dysg ar gyfleoedd busnes penodol a chysylltu â staff Prifysgol Caerdydd.
Mae rhagor o wybodaeth yn yr agenda hon.
Cynhadledd EURO 2015
12-15 Gorffennaf 2015, Prifysgol Ystrad Clud, Glasgow
Rhoddodd Nicole Ayiomamitou, yr Athro Aris Syntetos, ac Andrew Lahy y ddarlith ganlynol ar y cyd ar ragweld cylchred bywyd cynhyrchion yn 27ain Gynhadledd Ewrop ar Ymchwil Weithredol:
Mae esblygiad buan technoleg ynghyd â ffocws masnachol cynyddol ar atebion arloesol a chymhleth yn golygu bod cynhyrchion newydd yn cael eu cyflwyno’n gyflym iawn, a bod ganddynt gylchred bywyd byr iawn o’r herwydd. Yn ogystal, mewn rhai diwydiannau, fel y diwydiant ffasiwn er enghraifft, cynhyrchion o’r math hwn sy’n gyffredin. Cydnabyddir bod darogan gofynion galw am gynhyrchion gyda chylchredau bywyd byrion a rheoli’r eiddo perthnasol yn dasg neilltuol o anodd. Mae mapio gofynion eiddo ar hyd cylchred bywyd cynnyrch a gallu disgrifio’r camau pontio yn cynnig y gallu i ymateb yn gyflym i newidiadau yn y farchnad.
Yn y gwaith hwn, rhoddwyd pwyslais ar ddarogan galw yn y diwydiant ffasiwn. Defnyddir data go iawn o sefydliad achos er mwyn asesu dilysrwydd empirig a defnyddioldeb yr atebion a gynigir a chynigir mewnwelediadau diddorol i ymarferwyr sy’n gweithio yn y maes hwn. Mae’r gwaith yn rhan o Bartneriaeth Cyfnewid Gwybodaeth (KTP) a gynhaliwyd yn y DU a’i hariannu gan Innovate UK a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC).