Archwiliad post-mortem
Cesglir samplau a data ar gyfer ymchwil bellach yn ystod yr archwiliad post-mortem. Archwilir yr holl ddyfrgwn yn ofalus yn allanol ac yn fewnol.
Mae Understanding Animal Research wedi creu fideos am archwiliadau post-mortem ar ddyfrgwn a rhai o'r prosiectau sy'n defnyddio ein samplau.
Y data a gesglir
- data morffometrig sylfaenol (pwysau a hyd)
- rhyw, oedran, statws atgenhedlu
- marciau
- dannedd - traul, toriadau neu arwyddion o haint
- anafiadau (gan gynnwys anafiadau yn sgîl ymladd)
- haenau braster a chyhyrau
- annormaleddau o ran organau'r abdomen a thorasig
Samplau wedi'u harchifo
- croen a’r gweflflew (wisgers)
- ectoparasitiaid
- gwaed
- organau
- cerrig yn yr arennau
- gweddillion ysglyfaeth o'r stumog
- penglog, bacwlwm (asgwrn y pidyn), braich dde ôl (y tibia, y ffibwla a’r ffemwr), a'r asen. Caiff yr holl samplau o’r esgyrn eu glanhau a'u harchifo gan Amgueddfa Genedlaethol yr Alban.
Cysylltu
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyrchu data neu samplau ar gyfer prosiectau ymchwil, cysylltwch â: