Wedi dod o hyd i ddyfrgi?
Rydym yn dibynnu ar adroddiadau am garcasau dyfrgwn oddi wrth aelodau o'r cyhoedd, sefydliadau, yr heddlu ac awdurdodau lleol.
Os ydych wedi dod o hyd i ddyfrgi marw, cysylltwch â'r sefydliad perthnasol gan ddibynnu ar y lleoliad. Bydd gofyn i chi roi gwybod am leoliad y dyfrgi a gwybodaeth arall sylfaenol.
Lleoliad y dyfrgi | Rhif ffôn | Sefydliad |
---|---|---|
Lloegr | +44 (0)3708 506 506 (gofynnwch am eich cadwraeth agosaf neu swyddog bioamrywiaeth) | Environment Agency |
Cymru | 0300 065 3000 (gofynnwch am eich cadwraeth agosaf neu swyddog bioamrywiaeth) | Cyfoeth Naturiol Cymru |
Yr Alban | +44 (0)1471 822 487 | International Otter Survival Fund |
Bywyd gwyllt arall sydd wedi marw
Gallwch adrodd am yr holl fywyd gwyllt sydd wedi marw ar y ffordd trwy Project Splatter. Mae cynlluniau eraill sy'n casglu bywyd gwyllt marw ar gyfer ymchwil a monitro ar gael ar WILDCOMS.
Trwyddedu
Mae deddfwriaeth bresennol yn golygu bod yn rhaid cael trwydded i feddu ar samplau dyfrgi wedi marw neu eu cludo. Mae gennym drwydded gyffredinol sy'n cwmpasu unrhyw unigolyn sy'n gysylltiedig â chasglu, storio neu gludo samplau dyfrgi ar gyfer Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd.
Cysylltwch â ni
I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â'r Prosiect Dyfrgwn: