Cadwraeth ac addysg
Mae dyfrgwn yn rhywogaeth garismatig sy'n gallu cael eu defnyddio i yrru mentrau cadwraeth. Fodd bynnag, oherwydd eu natur ddi-ddal, mae'n anodd iawn eu monitro'n fyw.
Yn byw ar frig y gadwyn fwyd dyfrol, mae'r dyfrgi’n ddangosydd allweddol o iechyd systemau dyfrol.
Ffeithiau am ddyfrgwn
Hanes naturiol
Y dyfrgi Ewrasiaidd:
- sydd â'r amrediad daearyddol ehangach o'r holl rywogaethau dyfrgi
- yw'r unig ddyfrgi sy'n frodorol i'r DU
- gallwch ddod o hyd iddo mewn cynefinoedd dŵr croyw ac arfordirol
- mae'n unig, yn ddi-ddal ac yn nosol yn bennaf
- mae'n bwydo ar bysgod yn bennaf, ond yn cymryd amrywiaeth eang o ysglyfaeth arall ee cimwch, anifeiliaid digynffon (llyffantod a brogaod), adar, anifeiliaid di-asgwrn-cefn a mamaliaid bach
- mae'n cael torllwythi o 1-3 cenau, sy'n cael eu geni ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.
Dirywiad ac adferiad
Gwnaeth poblogaethau dyfrgwn ddirywio'n ddramatig yn y 1950au-70au a diflannu o'r rhan fwyaf o Loegr. Mae'n debyg bod y dirywiad yn gysylltiedig â defnyddio cemegau ymyrwyr endocrin (EDCs) Dechreuodd y boblogaeth adfer ar ôl i ddeddfwriaeth gyfyngu neu wahardd llawer o EDCs, yn ogystal â deddfwriaeth cadwraeth eraill a gwelliannau o ran ansawdd dŵr.
Ailgyflwynwyd dyfrgwn mewn rhai ardaloedd yn y 1980au a'r 1990au i helpu'r adferiad. Cafodd dyfrgwn a fagwyd yn gaeth eu rhyddhau am y tro olaf ym 1999. Yn achlysurol bydd dyfrgwn wedi'u hadsefydlu (ee ar ôl anaf) yn cael eu rhyddhau, ond yn anaml (4-5 y flwyddyn yn unig). Mae marwolaeth ar y ffyrdd, mynd yn sownd mewn rhwydi cylchau a thrapiau cimwch anghyfreithlon, a diraddio cynefin yn parhau i gael effaith negyddol ar boblogaeth dyfrgwn. Mae'r dyfrgi Ewrasiaidd yn parhau i gael ei gategoreiddio fel anifail 'dan ben bygythiad' ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o rywogaethau dan fygythiad.
Monitro
Mae gwybodaeth am baramedrau demograffig sylfaenol (ee sawl dyfrgi sydd mewn ardal) yn rhan hanfodol o gadwraeth. Mae ymddygiad unig, di-ddal, nosol yn bennaf y dyfrgi Ewrasiaidd yn golygu ei bod yn anodd amcangyfrif paramedrau o'r fath.
Ymhlith dulliau monitro uniongyrchol mae trapio â chamera a dilyn trywydd â radio; ymhlith dulliau monitro anuniongyrchol mae arolygon trywydd, arolygon tail dyfrgwn a sgatoleg moleciwlaidd (dadansoddiad genetig o ddeunydd tail dyfrgwn). Mae arolygon tail dyfrgwn a thrywydd wedi cael ei ddefnyddio ers y 1970au mewn Arolygon Cenedlaethol i asesu cyfradd adferiad dyfrgwn.
Cadwraeth yn y maes
Mae mesurau cadwraeth ymarferol, fel adeiladu gwaliau artiffisial, yn cael eu defnyddio i wella cynefin dyfrgwn. I gael mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn cadwraeth dyfrgwn yn eich ardal, cysylltwch â'ch Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt lleol.
Deddfwriaeth
Mae gan ddyfrgwn Ewrasiaidd amddiffyniad cyfreithiol yn y deddfau a rheoliadau canlynol:
- Atodiad II Confensiwn Bern 1979
- Atodiad 2 a 4 Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE
- Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (diwygiwyd)
- Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (yn cymryd lle Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol ac ati) 1994)
- Rhywogaeth â blaenoriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (BAP) 1995
- Atodiad I y Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau sydd mewn Perygl (CITES) 1997.
Mae ein tudalen Facebook yn cynnwys lluniau o'n digwyddiadau a gwybodaeth am gymryd rhan trwy wirfoddoli.