Ewch i’r prif gynnwys

Swyddi gwag

Swyddi a chyfleoedd i astudio gyda'r Prosiect Dyfrgwn

Prosiectau ymchwil PhD a meistr

Rydyn ni bob amser yn croesawu ymholiadau gan fyfyrwyr sy'n chwilio am gyfleoedd i wneud ymchwil ôl-raddedig.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig rhaglen Meistr Ymchwil (MRes) yn y Biowyddorau. Gellir gwneud cais bob blwyddyn tan fis Gorffennaf. Yn dilyn rhaglen gychwynnol a addysgir sy’n cyflwyno sgiliau ymchwil allweddol, ceir prosiect ymchwil unigol dros wyth mis. Bydden ni wrth ein boddau'n clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud ymchwil gyda'r Prosiect Dyfrgwn yn rhan o'r rhaglen Meistr hon.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig rhaglen Meistr yn y Gwyddorau ym maes Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang (wedi’i haddysgu). Derbynnir myfyrwyr newydd ym mis Medi bob blwyddyn. Bydd myfyrwyr yn cynnal prosiect ymchwil unigol a fydd yn canolbwyntio ar faes penodol o ecoleg a/neu gadwraeth, ac rydyn ni’n croesawu myfyrwyr i ymuno â thîm y Prosiect Dyfrgwn ar gyfer yr ymchwil hon. Fel arfer, mae'r prosiectau’n cael eu cynnal o fis Mai tan fis Medi, wedi i'r pedwar modiwl craidd gael eu cwblhau.

I gael gwybod sut i wneud cais, ewch i’r dudalen yn y Biowyddorau (MRes) neu’r dudalen MSc ym maes Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang.

Cyfleoedd i gydweithio ar ymchwil

Rydyn ni’n croesawu syniadau gan ymchwilwyr a allai ymweld â ni. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw syniadau ar gyfer cydweithio.

Cysylltu â ni