Datblygiad y golwg ac ocwlar
![Sophia in her glasses](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/49281/Sophiainherglasses.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Mae ein hymchwil yn defnyddio dulliau gwyddoniaeth sylfaenol sy'n canolbwyntio ar y claf i archwilio datblygiad y golwg ac ocwlar arferol ac anarferol.
Mae ein hymchwil yn cyfuno archwiliadau gwyddoniaeth sylfaenol gydag astudiaethau sy'n canolbwyntio ar y claf ar weithrediad y golwg arferol ac anarferol. Rydym yn canolbwyntio’n bennaf ar fioleg ddatblygiadol, geneteg myopia a dealltwriaeth o weithrediad y golwg mewn plant â syndrom Down.
Yn 2017, enillodd ein Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down Prifysgol Caerdydd gwobr academaidd fwyaf clodfawr y DU – gwobr Pen-blwydd y Frenhines – am ei hymchwil arloesol a’i thriniaethau ar gyfer problemau golwg mewn plant sydd â syndrom Down.
Aelodau staff
![Dr Philip Lewis](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2538605/38212-1627906458516.jpeg?w=120&h=120&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Dr Philip Lewis
Research Associate & Electron Microscopy Specialist
- lewispn@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 208 70459
![Yr Athro Keith Meek](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0019/48313/Meek,-Keith-2.jpg?w=120&h=120&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Yr Athro Keith Meek
Head of Biophysics Research Group, Senior Mentor
- meekkm@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6317
Grwpiau ymchwil
Dilynir ein thema datblygiad y golwg ac ocwlar o fewn pedwar grŵp cydweithredol:
- Grŵp Ymchwil Arbrofol Symud Llygaid (EMERG)
- Bioffiseg Adeileddol
- Grŵp Therapiwteg Ocwlar
- Grŵp Iechyd Y Cyhoedd Offthalmig
Drwy gymryd rhan yn ein hymchwil pwysig, byddwch yn ein helpu i wella ein gwybodaeth a gwella bywydau cleifion.