Ymchwilio i'r cysylltiad rhwng symudiadau llygaid a dyslecsia
Rydym yn archwilio a allai gwahaniaethau mewn canfyddiad amser achosi'r symptomau gweledol sy'n gysylltiedig â dyslecsia.
Mae symudiadau llygaid sefydlog yn symudiadau llygaid anwirfoddol, microsgopig sy'n hanfodol i rythu ar un pwynt. Mae'r symudiadau hyn yn angenrheidiol yn enwedig ar gyfer tasgau sy'n gofyn am gynnal sylw cyson megis darllen neu edrych ar rywbeth manwl, a dyma le mae abnormaleddau fel arfer yn bresennol gyda phobl â dyslecsia.
Pwrpas yr astudiaeth yw ymchwilio i achos posibl anawsterau darllen trwy archwilio'r berthynas rhwng canfyddiad amser a'r symudiadau llygaid microsgopig sy'n helpu i gadw ffocws wrth ddarllen.
Beth fydd yr astudiaeth yn ei chynnwys?
Bydd yr astudiaeth yn cynnwys profion gallu darllen, prawf IQ, a dau fath o gêm profion seicoffisegol. Mewn un, gofynnir i’r rhai sy’n cymryd rhan nodi pa un o ddau ysgogiad a ymddangosodd gyntaf, yn seiliedig ar wahaniaeth amser byr. Yn y dasg arall, bydd yn rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan benderfynu a yw bar canol yn ochri tuag at y bar chwith neu'r bar dde. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y daflen wybodaeth am y cyfranogwyr.
Cymryd rhan
Gallwch gymryd rhan yn yr astudiaeth, os:
- ydych yn hŷn nag 18 oed
- taw Saesneg yw eich mamiaith
- nad ydych wedi cael diagnosis o nam synhwyraidd neu wybyddol (gan gynnwys epilepsi)
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon neu'r daflen wybodaeth, cysylltwch â Bader Almagren drwy ebost.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu i archwilio achosion posibl anawsterau darllen.